Tal y Cafn

Yn Nhal y Cafn, sy’n anweledig o’r trên, mae’r lein yn pasio’n agos at safle gwersyll Rhufeinig, Caerhun, ble saif eglwys hardd y Santes Fair, sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r bont yn Nhal y Cafn o gryn bwysigrwydd, gan mai hi yw man croesi cyntaf yr afon o Gonwy. Fe’i hadeiladwyd yn 1897 i gymryd lle’r fferi.