Tag railway

Mae prosiect newydd sy’n anelu at roi cymorth ac annog y rhai ag anableddau cudd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei glodfori a’i groesawu. Mae gan ‘Hyder i Deithio’ fideos a phodlediadau ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r fideos yn rhoi profiad realistig o’r hyn y gall rhywun ag anabledd cudd ei brofi wrth geisio defnyddio bws neu drên, ac yn dangos pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Dyffryn Conwy a Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Arfordir Gogledd Orllewin Cymru, Tape Music and Film, Creating Enterprise a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Rydym am i bawb deimlo’n hyderus, yn ddiogel ac yn saff wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy’n eithriadol o hapus bod y fenter newydd hon eisoes yn llwyddo i annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.” Dywedodd Mel Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol TrC, Gogledd Cymru: “Yn TrC, rydym am annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhan o’r her honno yw deall y rhwystrau y mae rhai pobl yn eu hwynebu. Mae gan lawer o bobl yn ein cymunedau anableddau cudd a phroblemau iechyd meddwl, ac i’r bobl hyn, gall cynllunio taith a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dasg hynod anodd. “Nod ‘Hyder i Deithio’ yw cefnogi pobl sydd â’r pryderon hyn ac mae’r fideos yn nodi’r heriau y maent yn eu hwynebu ond ar yr un pryd, mynd â nhw ar daith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gam wrth gam, gan ddangos y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. “Rydym wedi gweithio gyda sawl sefydliad i roi’r prosiect hwn ar waith ac roedd y cyngor a gawsom gan y rhai ag anableddau cudd yn helpu mawr i’n helpu i gynhyrchu’r fideos hyn.”

Mae prosiect newydd sy’n anelu at roi cymorth ac annog…