Penmaenmawr
“I do not know of a more healthy place; a more satisfactory climate is not to be found to my knowledge in this country.”
Dyma eiriau’r Prif Weinidog William Gladstone ym 1896 wrth iddo ffarwelio â Phenmaenmawr – un o’i hoff gyrchfannau gwyliau, ar yr hyn a fyddai ei ymweliad olaf. Gallu’r rheilffordd i gludo ymwelwyr yn gyflym i Benmaenmawr oedd y ffactor allweddol ym mhenderfyniad Gladstone i ymweld mor aml. Cymerodd y daith ychydig dros ddwy awr ar y trên o’i gartref yn Sir y Fflint, neu bum awr o Lundain.
Yn debyg i lawer o orsafoedd eraill ar hyd arfordir gogledd Cymru, datblygwyd Penmaenmawr i ddenu twristiaid i’r ardal. Fel ei chymdogion, Llandudno a Bae Colwyn, enillodd enw da fel cyrchfan dymunol, gan gynnig teithiau cerdded golygfaol ac ymdrochi llesol. Mae adeilad trawiadol yr orsaf, gyda’i ganopi to llechi wedi goroesi hyd heddiw.