Hanes

Adeiladwyd lein Dyffryn Conwy cyn belled â Llanrwst yn 1863 at orsaf bresennol Gogledd Llanrwst, a oedd yn cael ei hadnabod yn wreiddiol fel Llanrwst a Threfriw er mwyn darparu ar gyfer potensial twristaidd pentref ffynhonnau poblogaidd Trefriw. Yn 1868 estynnwyd y lein i gyrchfan mewndirol enwog Betws y Coed.

Erbyn 1879 roedd y lein wedi’i hestyn eto, gan deithio’r troadau 1 mewn 47 i fyny dyffryn hardd y Lledr, trwy’r twnnel un trac hwyaf ym Mhrydain, i gyrraedd tref chwarelydda Blaenau Ffestiniog. Roedd y rheilffordd yn cynnig ffordd werthfawr o gludo llechi toi i farchnad fyd-eang a oedd yn cyflym ehangu ar y pryd.

Yn ogystal, bu i ddiwydiannau cysylltiedig eraill, megis amaethyddiaeth a choedwigaeth, elwa ar ddefnydd y rheilffordd wrth fodloni anghenion economaidd yr ardal.Adeiladwyd lein Dyffryn Conwy cyn belled â Llanrwst yn 1863 at orsaf bresennol Gogledd Llanrwst, a oedd yn cael ei hadnabod yn wreiddiol fel Llanrwst a Threfriw er mwyn darparu ar gyfer potensial twristaidd pentref ffynhonnau poblogaidd Trefriw. Yn 1868 estynnwyd y lein i gyrchfan mewndirol enwog Betws y Coed.

Erbyn 1879 roedd y lein wedi’i hestyn eto, gan deithio’r troadau 1 mewn 47 i fyny dyffryn hardd y Lledr, trwy’r twnnel un trac hwyaf ym Mhrydain, i gyrraedd tref chwarelydda Blaenau Ffestiniog. Roedd y rheilffordd yn cynnig ffordd werthfawr o gludo llechi toi i farchnad fyd-eang a oedd yn cyflym ehangu ar y pryd.

Yn ogystal, bu i ddiwydiannau cysylltiedig eraill, megis amaethyddiaeth a choedwigaeth, elwa ar ddefnydd y rheilffordd wrth fodloni anghenion economaidd yr ardal.