Ar feic

Hwyl ar ddwy olwyn: Beicio yng Ngogledd Cymru

Hwyl ar ddwy olwyn: Beicio yng Ngogledd Cymru
Wrth feddwl am Ogledd Cymru, mae pobl fel arfer yn dychmygu’r holl lwybrau cerdded a heicio gwych sydd yma. Wedi’r cyfan, dyma gartref Eryri – sy’n baradwys i gerddwyr a mynyddwyr.

Ond mae’n bosibl nad yw pobl yw gwybod bod Gogledd Cymru, a Dyffryn Conwy yn benodol, yn cynnig nifer o lwybrau beicio gwych hefyd.

Os ydych yn ystyried crwydro’r ardal ar ddwy olwyn, beth am adael eich beic adref a llogi beic yn hytrach?

Bydd yn llawer llai o drafferth na phacio eich beic a’i gario yma, ac mae llai o berygl y byddwch yn ei ddifrodi. Mae hefyd yn gyfle gwych i roi cynnig ar feic newydd, rhywbeth hollol wahanol i’ch beic arferol o bosibl!

Os nad oes gennych feic ond rydych awydd gweld Gogledd Cymru o bersbectif gwahanol, mae llogi beic yn ffordd wych o roi cynnig ar weithgaredd newydd gyda’ch teulu.

Mae Beics Betws yn cynnig gwasanaeth llogi, danfon a chasglu beiciau sef Us2U, yn Llandudno, Conwy ac ar draws arfordir Gogledd Cymru. Mae ganddynt siop ym mhentref hardd Betws y Coed, y Porth i Eryri a Pharc Cenedlaethol Eryri a does dim tâl am ddanfon beiciau i Landudno. Mae’r cwmni yn llogi beiciau o bob math, gan gynnwys beiciau safonol, beiciau plant, beiciau cydbwyso, trelars a hyd yn oed beic cargo trydan – y beic perffaith ar gyfer plant bach neu gi mawr hyd yn oed!

Os nad ydych wedi bod ar gefn beic trydan o’r blaen, neu rydych yn feiciwr di-brofiad, beth am roi cynnig arni? Mae beiciau trydan yn debyg iawn i feiciau safonol, ond yn cynnwys batri ac injan. Maen nhw’n hwyl, ac yn ddefnyddiol os ydych am deithio pellter hir yn gyflym – byddwch yn cyrraedd y copaon heb unrhyw drafferth!

Os ydych yn teimlo’n fwy anturus ac awydd crwydro oddi ar y ffyrdd, mae gan Beics Betws lawer o feiciau mynydd gan gynnwys beiciau mynydd trydan.

Felly, codwch y ffôn neu edrychwch ar wefan y cwmni i ddechrau ar eich taith ar ddwy olwyn.

Gallwch fynd â’ch beic ar y trên am ddim hefyd, felly mae’n hawdd beicio o’r gorsafoedd. Mae’n rhaid cadw lle ar gyfer beic ar rai gwasanaethau, ac mae rhagor o wybodaeth am hynny ar gael yma. I’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch teithiau ar ddwy olwyn, dyma dair taith feics gwych yma yng Ngogledd Cymru.

Cycle Routes Sign Anglesey
Cycle Routes Sign Anglesey © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2023) Cymru Wales
Cycling on Anglesey
Anglesey © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2023) Cymru Wales
Cycling Betws-y-Coed
Betws-y-Coed © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2023) Cymru Wales

Llwybr Beicio Ffyrdd Dyffryn Conwy

Mae’r llwybr hwn yn rhedeg gyferbyn â’r rheilffordd – ar hyd glannau afon Conwy, o Gonwy i Fetws-y-Coed, gan fynd drwy sawl pentref hyfryd ar hyd y daith.

Mae’r llwybr tua 15 milltir bob ffordd, ond os gwelwch eich hun yn blino, bydd gorsaf drenau wastad yn agos lle gallwch ddal trên yn ôl.

Mae rhai elltydd eithaf serth ar ddechrau a diwedd y llwybr – efallai y byddai beic trydan yn well ar gyfer hyn!

Bydd yn rhaid i chi wneud siwrnai fer o orsaf Cyffordd Llandudno i Gonwy i ddechrau’r daith hon sy’n llawn golygfeydd hardd.

Taith Dyffryn Ogwen

Mae Dyffryn Ogwen yn mynd drwy galon Eryri rhwng mynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau. Disgwyliwch amgylchedd dramatig: clogwyni serth, rhostir digysgod, rhaeadrau a nentydd byrlymog.

Dyma’r Gymru wyllt ac nid oes raid i chi fynd i uchelfannau’r mynyddoedd i’w mwynhau, gallwch feicio ar hyd ffordd yr A5 ar hyd gwaelod y dyffryn.

Mae dau ddewis ar gael i chi. Gallwch ddod oddi ar y trên ym Metws-y-Coed a mynd ar eich beic i Fwthyn Ogwen yna dychwelyd yr un ffordd i ddal y tren yn ôl i Landudno (taith gylch 21 milltir).

Os oes gennych ychydig o oriau rhydd, beth am gerdded i fyny Cwm Idwal ac ymgolli yn chwedl drasig y tywysog a gollodd ei fywyd yma.

Fel arall, beiciwch am 22 milltir ar hyd Dyffryn Ogwen ac i mewn i ddinas Bangor. Gallwch neidio ar y trên yma a dychwelyd i Landudno (bydd angen tocyn gwahanol arnoch chi).

Os ydych yn dewis gwneud hyn, gallwch fynd oddi ar y ffordd am ychydig a beicio rhan o Lwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ôl Bwthyn Ogwen.

Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction
Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction
Wales Coastal Path

Llwybr Arfordir Cymru

Promenâd Llandudno yw’r lle delfrydol i ymuno â’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Llwybr 5) ar Lwybr Arfordir Cymru.

O’r fan hon gallwch deithio ar hyd arfordir hardd yr ardal ar gefn eich beic – ar ddiwrnod braf mae hwn yn llwybr diguro.

Rydym wrth ein boddau â’r daith gylch 24 milltir o Landudno i Lanfairfechan. Mae bron yn hollol ddi-draffig ac mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan sy’n edrych allan ar rai o olygfeydd harddaf y rhan hon o ogledd Cymru.

Ar hyd y ffordd fe welwch Y Gogarth, Morfa Conwy, Mynyddoedd y Carneddau, Dyffryn Conwy ac, wrth gwrs, tref hudolus Conwy a’i chastell.

Ar eich beic!

O feicio gyda’r teulu i ddringfeydd heriol, mae gan ogledd Cymru lwybrau beicio sy’n addas i bobl ar bob lefel profiad a gallu. Ac os ydych yn dal i chwilio am lwybrau newydd, dyma nifer o adnoddau defnyddiol ar eich cyfer:

Mapiau a theithlyfrau Beics Betws

Adran Cyngor Conwy o Lwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5

Mapiau a thaflenni am ddim gan Sustrans ar gyfer Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Cymru

Dewch o hyd i’ch llwybr perffaith gyda Ride North Wales

Llogi beiciau yn Ynys Môn gyda Cycle Wales

Llogi beiciau trydan yn Ynys Môn gyda chwmni Anglesey Electric Bike Hire

Ein newyddion diweddaraf

Detholiad o’n postiadau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf – Yr holl newyddion