Ar y bws

Er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith o amgylch Sir Conwy, dyma rai dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol:

Sherpa’r Wyddfa

Mae Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth bws sy’n teithio o amgylch troed yr Wyddfa, gan gysylltu’r chwe prif lwybr i fyny’r Wyddfa, yn ogystal â phentrefi, mannau twristaidd a phrif feysydd parcio.

Mae’n darparu gwasanaeth gwych i gerddwyr a dringwyr, yn ogystal ag ymwelwyr i’r ardal sy’n dymuno dechrau eu taith a gweld ble fydd yn mynd â nhw.

Gwasanaethau Sherpa

Parcio a theithio

Osgowch y maes parcio prysur a llawn ym Mhen y Pass gyda Gwasanaeth Parcio a Theithio Sherpa’r Wyddfa o feysydd parcio Nant Peris a Phenygwryd. Mae fel arfer yn mynd bob dydd Sadwrn o Sadwrn y Pasg hyd at ddydd Sadwrn
olaf mis Hydref. Ar adegau prysur, mae gwasanaethau ychwanegol yn rhedeg o Lanberis.

Prynu tocyn Sherpa

Gallwch brynu eich tocyn ar y bws. Pris tocyn un siwrnai ydi £2.00 neu gallwch brynu tocyn diwrnod am £5.00 sydd yn eich galluogi i fynd fel y mynnoch am ddiwrnod cyfan i gynifer o fannau ag y dymunwch ar hyd llwybr y Sherpa.

Cwynion

Os ydych chi’n anfodlon ar y ffordd y mae cwmni bysus wedi ymdrin â’ch cwyn, neu os credwch nad yw’r cwmni wedi’ch trin yn deg, cysylltwch â Defnyddwyr Bysiau Cymru. Gallwch gael help gydag unrhyw broblem, gan gynnwys gyrrwr blin neu fws yn dod yn gynnar neu’n hwyr.

Bus Users Cymru
PO Box 1045,
Cardiff CF11 1JE
029 2034 4300
wales@bususers.org