Deg lle gwych i’w gweld ar eich stepen ddrws

Er mai Llandudno yw lle mae lein Dyffryn Conwy yn dod i ben, i lawer o ymwelwyr dyma lle mae’r hwyl yn dechrau o ddifri! Mae Brenhines Cyrchfannau Cymru yn llawn dop o bethau i’w gweld a’u gwneud, a gorau oll, maent i gyd o fewn cyrraedd hawdd i’r orsaf.

Mae’r dref ar dir gwastad ac y mae’n lle hawdd i deithio o’i chwmpas, ac mae hyd yn oed yn bosibl tramwyo llethrau serth y Gogarth ar y tram neu’r car cebl.

O GANLYNIAD I GYFYNGIADAU CLOI LLEOL/RHANBARTHOL, MAE’N BOSIBL FYDD RHAI BUSNESAU AR GAU, NEU’N RHEDEG ORIAU CYFYNGEDIG. OS GWELWCH N DDA, GWIRIWCH Â NHW CYN YMWELD.

Dyma ein deg hoff beth i’w wneud yn Llandudno:

1. Promenâd a phier Llandudno

Adeiladwyd Llandudno oherwydd ei glannau hyfryd, a dyma’r union lefydd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd fel saeth amdanynt. A pham lai? Mae penrhyn y Gogarth a’i gyfaill ar ochr daw’r bae, Trwyn y Fuwch, yn amgáu cilfach lonydd Traeth y Gogledd yn ysblennydd.

Mae’r promenâd llydan yn ymestyn o un pen i’r llall, gyda digonedd o lochesi a meinciau ar hyd y ffordd. Lle perffaith i fynd am dro bach cyn cinio, neu am grwydr hirach i roi cyfle i’r enaid gael llonydd. I gyfeiriad y Gogarth y mae Pier Llandudno, yr hiraf yng Nghymru, ac mae’n werth mynd am dro ar ei hyd, uwchben y môr a’r creigiau.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 15 munud i’r pier, 5 munud i’r prom!

2. Tramffordd y Gogarth

Great Orme Tramway

Taith ar Dramffordd y Gogarth yw un o’r ffyrdd gorau o ddringo’r 679 o droedfeddi serth at gopa’r Gogarth. A hithau bron yn 120 oed, hon yw’r unig dramffordd cebl ym Mhrydain sy’n teithio ar hyd ffyrdd cyhoeddus.

Ar hyd ei ddringfa filltir o hyd byddwch yn teithio drwy Barc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth, ac yn pasio heibio i Fwyngloddiau Copr y Gogarth, atyniad tanddaearol anhygoel, cyn belled â nad oes ots gennych am fannau caeedig! Mae yna siop a chaffi ar y copa, ond daw’r wobr go iawn o’r golygfeydd ysblennydd o Landudno, Eryri a’r Carneddau, Ynys Môn ac arfordir gogledd Cymru.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 14 munud

3. Venue Cymru

Mae theatr fwyaf blaenllaw gogledd Cymru yn elwa o raglen eang llawn digwyddiadau. Fe’ch cynghorir ar bob achlysur i archebu tocynnau ymlaen llaw, ac mae’r ganolfan hefyd yn cynnal cyngherddau côr, gweithdai creadigol a grwpiau ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, yn ogystal â gwersi dawns.

Ewch i wefan Venue Cymru i weld beth sydd ymlaen. Ar ben hynny, mae gan gaffi’r ganolfan rai o’r golygfeydd gorau o bromenâd Llandudno hefyd.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 11 munud

4. Y Fach

Yng nghysgod hen chwarel ar y Gogarth, fe gewch deithiau cerdded a gerddi hyfryd Y Fach, a gydnabyddir yn fwy cyffredin fel Happy Valley. Er mae’n swatio dim ond ychydig funudau o’r pier prysur, mae wedi’i guddio o’r golwg, ac yn teimlo fel encil bach o’r byd gerllaw.

Os ydych chi wedi cael digon o gerdded ac yn ffansio ychydig o antur, rhowch gynnig ar y llethr sgïo neu’r llwybr tobogan. Fel arall gallwch deithio’n ddidrafferth at gopa’r Gogarth mewn car cebl, ar y system car cebl i deithwyr hiraf ym Mhrydain.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 20 munud

5. Pen Morfa

Os yw traeth caregog Llandudno yn llethu’ch breuddwydion o gestyll tywod, peidiwch â digalonni. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Traeth Pen Morfa ac fe ddowch o hyd i draeth tywodlyd arbennig, sy’n ymestyn am dros filltir – hen ddigon o le i gloddio ffosydd a chodi cestyll, cael picnics a chwarae gemau. Gan ei fod ychydig i ffwrdd o ganol y dref, mae gan draeth Pen Morfa ei gaffis ei hun, felly does dim rhaid crwydro’n bell o’r hwyl i gael tamaid i’w fwyta.

Os gallwch chi, arhoswch ar y traeth tan y machlud. Gwyliwch yr haul yn suddo ac yn llenwi copâu gogleddol Eryri gyda’i goleuni euraidd wrth iddi lithro dros Fôn ac i lawr.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 22 munud

6. Eglwys y Drindod Sanctaidd

Codwyd eglwys wreiddiol Llandudno yn uchel ar gopa gwyntog y Gogarth. Mae dal yn bosibl i chi ymweld â’r eglwys honno, ond mae’n dipyn o step hyd yn oed os cymerwch y tram!

Erbyn i Landudno dyfu’n gyrchfan Fictoraidd ffasiynol, roedd angen eglwys fwy cyfleus arni, felly ym 1860 adeiladwyd Eglwys y Drindod Sanctaidd. Fel y gwnaeth bryd hynny, mae’n nodi calon y dref ac yn rhoi dihangfa dawel o brysurdeb y stryd fawr.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 3 munud

7. Amgueddfa Llandudno

Daw amgueddfa Llandudno â hanes lleol yn fyw. Ac fe gewch doreth ohoni – 350 miliwn o flynyddoedd, ar amcan gorau’r haneswyr!

O’r mwyngloddiau copr cynhanesyddol ar y Gogarth, i statws y dref heddiw fel un o’r enghreifftiau gorau o gyrchfan Fictoraidd ym Mhrydain, mae Amgueddfa Llandudno yn rhoi cyflwyniad hyfryd i’r dref a’r ardal, gan helpu ymwelwyr o bob oed i ddod i adnabod hanesion pobl leol, y traddodiadau a’r tirwedd.

Sylwer: Mae’r amgueddfa ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith adnewyddu.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 8 munud

8. Oriel Mostyn

Mae oriel gelf drawiadol y dref, gyda’i thŵr aur nodedig, yn dafliad carreg o’r orsaf. Fe’i henwyd ar ôl y teulu Mostyn, ac mae’n un o’r cymynroddion niferus sydd ganddynt yn Llandudno ac ar draws gogledd Cymru.

Y tu ôl i ffasâd terracotta Edwardaidd hardd, mae’r oriel wreiddiol sy’n dyddio o droad y ganrif wedi’u huno â dyluniad pensaernïol cyfoes, diolch i adnewyddiad diweddar. Mae Oriel Mostyn yn arddangos gweithiau gan artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru a thu hwnt.

Mae ynddi siop a chaffi hefyd, felly mae’n lle gwych i dreulio bore neu brynhawn hamddenol.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 2 funud

9. Siopa yn Llandudno

Anelwch am Stryd Mostyn, ac fe ddewch o hyd i amrywiaeth dda o siopau annibynnol ac enwau adnabyddus, yn ogystal â digonedd o lefydd i gael bwyd a diod.

Os fydd y tywydd yn wael, gallwch gysgodi yng Nghanolfan Victoria, sydd ar ganol y stryd fawr, a mwynhau rhagor o retail therapy wrth guddio rhag y glaw.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? 6 munud

10. Dilynwch lwybr Alice

Treuliodd merch fach o’r enw Alice Liddell lawer o wyliau haf braf gyda’i theulu ym Mhen Morfa yn Llandudno. Roedd y teulu Liddell yn ffrindiau â Charles Dodgson, a ysgrifennodd lyfrau ffantasi i blant o dan ei ffugenw enwog, Lewis Carroll. Dyma o le mae cysylltiad y dref gydag Alice in Wonderland yn dod.

Mae Llwybr Alice yn olrhain cyfres o gerfluniau o amgylch y dref sy’n cysylltu â lleoedd a chymeriadau yn y llyfrau cofiadwy, ac mae’n ffordd wych o archwilio a chanfod mwy am Landudno.

Hyd y daith gerdded o’r orsaf? Cychwynnwch ar ei drothwy!