Santes Dwynwen – nawddsant cariadon Cymru

Gall y Flwyddyn Newydd fod yn amser diflas, ond yng Nghymru, mae nifer ohonom ni’n teimlo’n llawn cynhesrwydd wrth i Ddydd Santes Dwynwen nesáu.

25 Ionawr yw’r diwrnod rydyn ni’r Cymry’n ei ddathlu fel diwrnod santes y cariadon, Dwynwen. Mae Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru’n cyfateb i Ddydd San Ffolant ac, yn ein barn ni, mae hon yn stori llawer gwell.

Pwy oedd Dwynwen? 

Roedd Dwynwen yn dywysoges Gymreig, ac ystyr ei henw ydi ‘un sy’n byw bywyd gwyn/dwyfol’. Cafodd ei geni yn y 5ed ganrif yn nheyrnas Brycheiniog (Bannau Brycheiniog heddiw, yn fras) yn ferch i’r Brenin Brychan. Yn ôl y sôn, roedd gan y Brenin Brychan 36 o blant, a Dwynwen oedd yr harddaf o’r 24 o ferched.

Sut y daeth hi’n nawddsant cariadon Cymru? 

Disgynnodd Dwynwen mewn cariad yn llwyr â bachgen lleol o’r enw Maelon Dafodrill, ond roedd y Brenin Brychan wedi trefnu iddi briodi tywysog Cymreig. Torrodd Dwynwen ei chalon ac fe redodd i’r coed i alaru am ei chariad coll, gan weddïo ar Dduw i’w helpu.

Daeth angel i lawr a rhoi diod felys iddi, a wnaeth iddi anghofio am Maelon. Cafodd Maelon ei droi’n floc o rew gan y ddiod, wedi’i rewi mewn amser.

Yna, rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd i Maelon gael ei ryddhau o’r rhew; i Dduw helpu’r holl wir gariadon; ac, yn olaf, na fyddai’n rhaid iddi briodi fyth. Rhoddodd Duw’r dymuniadau i Dwynwen ac fe gysegrodd hithau ei bywyd i Dduw o ganlyniad i hynny, gan sefydlu lleiandy ar Ynys Llanddwyn ym Môn.

Beth sy’n digwydd ar Ddydd Santes Dwynwen? 

Mae’r Cymry’n dathlu Dydd Santes Dwynwen yn debyg iawn i’r ffordd mae Dydd San Ffolant yn cael ei ddathlu o amgylch y byd, gyda chardiau, anrhegion a blodau. Un gwahaniaeth nodedig ydi’r llwyau caru – y llwyau pren addurniadol sydd wedi’u cerfio’n gywrain – sy’n cael eu rhoi fel arwydd o gariad ymysg y Cymry.

Mae llwyau caru’n dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, ond mae cred eu bod yn boblogaidd ymhell cyn hynny. Byddai dynion ifainc, yn enwedig llongwyr ar deithiau hir ar y môr, yn eu cerfio i’r cariadon a oedd ar ôl ar y lan.

Roedd y merched yn eu cadw nhw fel arwydd cariad, ac roedd gan rai lwyau gan nifer o wahanol lanciau! Byddai’r merched yn eu harddangos ar waliau eu cartref fel symbol o statws.

Heddiw, mae llwyau caru’n cael eu rhoi gan amlaf ar achlysuron fel priodasau, ar ôl dyweddïad, genedigaeth ac i ddathlu Dydd Santes Dwynwen. Maen nhw hefyd yn bethau bach hardd i gofio am eich taith i ardal benodol o Gymru ac maent i’w gweld mewn siopau mewn sawl lle.

Beth i’w wneud ar Ddydd Santes Dwynwen 

Dathlu gyda rhywun arbennig eleni? Mae Gogledd Cymru’n lle hynod ramantus i’w fwynhau gyda’ch gilydd.

Dywediad enwocaf Santes Dwynwen ydi ‘nid enillir calonnau cyn gynted â sirioldeb’, sef nad oes dim cystal â bod yn hapus i ennill serch rhywun, felly rhannwch ychydig o hapusrwydd gyda’n hawgrymiadau am ddiwrnod llawn rhamant:

1. Ewch am dro i Ynys Llanddwyn 

Mae Llanddwyn yn hardd drwy gydol y flwyddyn ond, fel y lle y bu Dwynwen yn byw tan ddiwedd ei hoes fel lleian, ’does dim amser gwell i ymweld ag o ac ail-fyw ei hanes.

Mae cerdded law yn llaw ar hyd traeth gwyllt Niwbwrch gyda dirgelion Ynys Llanddwyn yn y pellter yn brofiad arbennig iawn.

Mae coedwig binwydd fawr y tu ôl i’r traeth tywodlyd sy’n ffurfio rhan o Warchodfa Natur Niwbwrch. Mae’n gartref i wiwerod coch a’r glwyd fwyaf o gigfrain yn y byd. Efallai nad cigfrain ydi’r adar harddaf sydd i’w cael ond maen nhw’n paru am oes, sy’n eithaf rhamantus, yn ein barn ni.

Cerddwch allan ar yr ynys gan ddilyn un o’r llu o lwybrau sy’n cris-croesi’r pentir. Yn y canol, fe welwch chi hen adfeilion Eglwys Santes Dwynwen, sef yr union fan mae Dwynwen wedi’i chladdu, yn ôl y traddodiad.

Ewch i grwydro a dod o hyd i ogofâu cudd gyda morloi diog ynddyn nhw, gweld y merlod hanner-gwyllt sydd weithiau’n pori yma ac ymweld â’r hen oleudy gyda’i olygfeydd anhygoel ar draws Fae Caernarfon.

Os oes arnoch chi angen ychydig o help ym maes cariad, efallai y gallech chi ddweud gweddi fach wrth Groes Dwynwen neu weld eich dyfodol yn Ffynnon Dwynwen (yn ôl y sôn, mae dau bysgodyn hud yno i’ch helpu!).

Mae ymdeimlad arbennig iawn i’r ynys ac rydyn ni’n hollol siŵr y byddwch chi’n gadael yn teimlo’n llawn cariad.

2. Pampro i’r pâr 

Diwrnod mewn sba yw’r ffordd berffaith o ddadflino a mwynhau cwmni un sy’n annwyl i chi ac mae dewis gwych o lefydd i ymlacio ynddynt yng Ngogledd Cymru.

Am olygfeydd gwych o Eryri a Dyffryn Conwy, ewch i Neuadd a Sba Bodysgallen ger Llandudno. Dyma dŷ gwledig preifat a moethus sydd efo sba ardderchog gydag ystod o ddiwrnodau a thriniaethau sba am ddiwrnod arbennig o hamddena.

Mae sba moethus Deganwy Quay yn edrych allan ar olygfeydd anhygoel o aber Afon Conwy gyda dewis gwych o driniaethau, gan gynnwys diwrnod sba ‘Winter Escapes’ i ddau – perffaith i gyplau.

Mae gan Stations Leisure Spa yng Ngwesty’r Waterloo ym Metws-y-coed sba thermol i’ch temtio i ymlacio ynddo, a dewis o driniaethau harddwch moethus.

I gael llwyth o bwyntiau ychwanegol ar Ddydd Santes Dwynwen, beth am ddod draw am benwythnos a chyfuno eich diwrnod yn y sba gyda noson i aros?

3. Cynnau’r tân 

Mae rhai cyplau anturus yn cael gwefr o wthio eu hunain i’r pen. Os ydi adrenalin yn cynnau tân yn eich bol, Gogledd Cymru ydi’r lle gorau un i ddod â’ch partner iddo.

’Does dim arwydd gwell o gariad na siwt foeler goch… os ydych chi wir am geisio gwneud argraff dda ar eich cariad! Gwibiwch dros hen chwarel lechi’r Penrhyn ar gyflymder yn Zip World yn Eryri. Mae’n ffordd unigryw o ddangos eich cariad, ac fe fyddwch chi’n siŵr o greu atgof am oes!

Ddim yn rhy hoff o gyflymder? Surf Snowdonia <https://www.surfsnowdonia.com/?cymraeg> yn Nolgarrog ydi unig lagŵn syrffio’r DU sydd wedi’i adeiladu ar y tir. Er na fydd hi’n olygfa o From Here to Eternity, rydych chi’n siŵr o gael cyfle i chwarae yn y tonnau ac, efallai, i ddysgu ambell sgil cŵl.

Mae Dydd Santes Dwynwen yn rhoi stori o gariad a cholled ar gof a chadw ac mae’n esgus perffaith i ddangos ychydig o gariad tuag at yr un sy’n gwneud i’ch calon guro’n gynt. Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwneud dim arall, cofiwch ddymuno ‘Dydd Santes Dwynwen hapus’ i’ch cariad – efallai y bydd Dwynwen yn gwrando!

Experience Adventure in the Conwy Valley by railway