Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy

Mae’n bleser mawr gen i gael cyflwyno Adroddiad Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy 2019. Mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i ni a’n partneriaid yn y diwydiant, Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.

Mae’r amhariad ffisegol a achoswyd gan y llifogydd ym mis Mawrth a’r gwaith cynnal a chadw pwysig, ynghyd ag ailadeiladu gorsaf Dolgarrog, wedi golygu bod cludiant ar y ffordd wedi cael ei ddarparu yn lle’r gwasanaeth rheilffordd am gyfnodau helaeth. Wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn, mae’n braf gwybod bod goleuni ym mhen draw’r twnnel, bron yn llythrennol.

Drwy gydol yr amhariad, rydym wedi ymdrechu i gadw cysylltiad â’n cwsmeriaid a mabwysiadwyr ein gorsafoedd. Cawsom ddathlu 140 o flynyddoedd ers i’r rheilffordd gyrraedd Blaenau Ffestiniog, ac roedd yn braf cynnal digwyddiad ym Mlaenau i nodi’r garreg filltir hanesyddol bwysig honno.

Yn dynn wrth sawdl newid i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, edrychwn ymlaen yn 2020 at berthynas gadarnhaol gyda gweithredwr newydd llwybr Arfordir y Gorllewin, sef Avanti West Coast, fydd yn darparu gwell gwasanaethau i gysylltu â llinell Dyffryn Conwy, yn ogystal â gwasanaeth o Landudno i Lundain.

Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i fy Is-gadeirydd, y Cynghorydd Annwen Daniels, fy nghydweithwyr ar y Bwrdd Partneriaeth am eu holl gefnogaeth yn ogystal â’n Swyddog Rheilffyrdd, Melanie Lawton, am ei gwaith ymroddedig a’i gallu i fynd i’r afael â heriau’r flwyddyn a fu.

 

Y Cynghorydd Philip Evans

Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy

Conwy Valley Railway Partnership Annual Report 2019 (Philip Evans).pdf Welsh