Chwilio am fywyd gwyllt? Dewch i arfordir Gogledd Cymru.

Dewch o hyd i le braf i eistedd ar yr arfordir ac edrychwch allan i’r môr. Gwyliwch yn ofalus. Ai asgell yw honna? Pen morlo?  A’r aderyn yna sy’n disgyn yn gyflym o’r awyr – ai hwnna yw’r anifail cyflymaf ar y blaned – yr hebog tramor?

Yng Ngogledd Cymru gallai fod yn unrhyw un ohonynt. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am y lle gorau i edrych, a dal ati i edrych. Yn y blog hwn byddwn yn rhannu rhai o’n hoff fannau ar gyfer gwylio bywyd gwyllt.

Adar Môr y Gogarth

Yn ddelfrydol bydd gennych lyfr gwylio adar er mwyn gallu adnabod yr holl wahanol adar y  byddwch yn eu gweld o amgylch clogwyni calchfaen y Gogarth ac allan dros y môr.  Mae’r man mwyaf gogleddol hwn o’r tir mawr yng Nghymru yn llawn o adar o bob math.

Mae’n debyg iawn y byddwch yn gweld y frân goesgoch gyda’i phlu du a’i phig coch trawiadol. Tra bydd y rhai ohonom nad ydym yn wylwyr adar brwd yn gweld ‘gwylanod’, bydd gwylwyr profiadol yn gallu adnabod yr heligog gyffredin, gwalch y penwaig, y wylan gefnddu, gwylan y penwaig, gwylan y graig a’r wylan goesddu.

Edrychwch allan i’r môr i chwilio am y fulfran lwyd yn plymio. Rhaid bod yn gyflym iawn i weld y  wylog ddu a’i choesau coch llachar.

I lawr ar y creigiau yn aml iawn fe welwch y fulfran werdd a’r forfran, weithiau gyda’u hadenydd wedi’u hymestyn.  Dydi’r gwyddonwyr dal ddim yn cytuno â’i gilydd ynglŷn â’r rheswm pam fod y forfran yn gwneud hyn. Y theori fwyaf poblogaidd yw eu bod nhw’n sychu eu hadenydd, ond mae eraill yn credu eu bod yn gwneud hyn er mwyn gallu treulio’u bwyd yn well.

Bywyd môr o amgylch Ynys Môn.

Yn ein profiad ni, arfordir gogledd-orllewinol a gogledd-ddwyreiniol Ynys Môn yw’r llefydd gorau i weld bywyd môr.  Gyda’r clogwyni uwch a’r haul tu ôl i chi, mae adar a mamaliaid y môr yn haws i’w gweld.

Er enghraifft gallwch ddod o hyd i’r hebog tramor ar y cildraethau i’r gorllewin o Amlwch – mae Porth Wen a’r waith brics  yn un o’u hoff lefydd. Os ydych eisiau gweld morloi llwyd, dolffiniaid a llamidyddion, mae’r arfordir o Amlwch tuag Ynys Seiriol ger ceg y  Fenai yn cynnig llawer o fannau gwylio da.

Wrth gwrs mae llawer iawn o adar môr yn Ynys Lawd (chwiliwch am aderyn y pâl ym misoedd Mai a Mehefin) ac mae rhydwyr ac adar gwyllt yn gyffredin mewn aberoedd megis Malltraeth.

Er gwaethaf ei enw  Saesneg – ‘ Ynys y Pâl/Puffin Island’, mae Ynys Seiriol yn gartref i 750 pâr o forfrain. Mae’r ynys hefyd yn gartref i dri math o fôr-wennol gan gynnwys y fôr-wennol bigddu ( a ddefnyddir ar logo Llwybr Arfordirol Ynys Môn). Ewch i Fae Cemlyn yn ystod misoedd yr haf i weld yr adar arbennig hyn.

Y llefydd gorau i bysgota’n y môr.

Mae dewis di ben draw o lefydd i bysgota! Mae digonedd o draethau hawdd cyrraedd atynt gan gynnwys Llandudno, Morfa Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan ar arfordir Gogledd Cymru.

Yma gallwch ddal lledod a hefyd, yn ystod yr haf, ddraenogiaid y môr o amgylch y Gogarth, tra bod pysgod Ynys Môn yn cynnwys  y wrachen fôr, y morgi, y morlais,  pysgodyn gwyn, congren a macrell. Ar arfordiroedd gorllewinol a gogleddol Penrhyn Llŷn gallech hefyd ddal cathod môr.

Ym mis Hydref eleni bydd Pencampwriaeth Pysgota o’r Lan y Byd yn dod i Ogledd Cymru ar ôl i’n harfordir ni gael ei ddewis fel y man delfrydol ar gyfer y gystadleuaeth bysgota ryngwladol enwog hon.  Os dydi hyn ddim yn cadarnhau ansawdd ein dyfroedd, wyddom ni ddim beth sydd! Cewch wybod mwy yma.

Gwerddon i fywyd gwyllt ar gyrion Eryri …

…dyma ddywed yr RSPB am ei Warchodfa Natur ar Foryd Conwy. Mae’n rhaid i ni gytuno! Mae’r ymwelwyr pluog gydol y flwyddyn yn cynnwys  rhegen y dŵr, y rhestog, y cornicyll a thelor yr hesg  ymysg llawer o rai eraill.

Mae’r warchodfa mewn lleoliad mor hyfryd, does wir ddim angen i chi fod yn wyliwr adar i fwynhau ymweliad.  Y tu hwnt i ddyfroedd  llonydd yr afon mae golygfa hyfryd o lethrau gorllewinol Eryri, felly mae eistedd ar fainc ac anadlu’r aer pur yn bleser ynddo’i hun.

Mae llwybrau sy’n addas ar gyfer pramiau o amgylch y morlyn ac os bydd y tywydd yn troi mae yno siop dda a chaffi i lochesu ynddynt.

Mae RSPB Conwy o fewn pellter cerdded i Orsaf Drenau Cyffordd Llandudno (llai na milltir, 10 munud, neu ychydig yn hirach ar lwybr oddi ar y ffordd – 20 munud). Mae’r holl fanylion ar wefan yr RSPB.

Merlod arbennig Gogledd Cymru

Troedfryniau’r Carneddau, y rhes o fynyddoedd sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir o Gonwy i Fangor, yw cartref rhywogaeth brin ac arbennig iawn o ferlod gwyllt. Y rhain yw Merlod y Carneddau, brid hynafol sy’n dyddio’n ôl dros bum canrif.

Ond bu bron i’r anifail bach tlws hwn ddiflannu’n gyfan gwbl yn y 16G pan wnaeth Hari VIII orchymyn i’w difa gan nad oedd yn credu eu bod yn ffit i gario marchog mewn arfwisg llawn. Mae’r merlod bach hyn tua 101cm o daldra ac yn debyg i ferlen o fath Thelwell (gyda mwng hir, afreolus a wyneb holgar), ac allen nhw ddim bod yn fwy gwahanol i geffylau rhyfel.

Ond  mae’r Cymry’n bobl ystyfnig ac anwybyddodd ffermwyr lleol orchymyn y brenin a thrwy hynny fe wnaethant ddiogelu’r merlod rhag diflannu am byth. Mae’r arfer yn parhau hyd heddiw gydag aelodau o Gymdeithas Merlod Mynydd y Carneddau yn hel y ceffylau at ei gilydd ddiwedd yr hydref er mwyn gwirio eu hiechyd a’u lles.

Ym 2013 cafodd y merlod eu datgan yn frid unigryw gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.  Y gred cyn hynny oedd mai amrywiad ydynt o’r Ferlen Gymreig Adran A ond darganfuwyd fod cartref ynysig Merlod y Carneddau wedi caniatáu iddynt ddatblygu eu nodweddion unigryw eu hunain.

Maen nhw hefyd yn hynod o brin, gyda dim mwy na thua 200 ohonynt yn crwydro’n wyllt, felly dylech ystyried eich hun yn ffodus iawn os cewch gip ar y creaduriaid cyfareddol hyn yn eu cynefin naturiol.

(Pic) Morfrain yn sychu eu hadenydd ar greigiau ger y Gogarth gan Phil Thomas.

Comments are closed.