Cerdded o Fetws-y-coed at Lyn Elsi

Pa ffordd well i dreulio prynhawn braf ym Metws-y-coed na cherdded i fyny at Lyn Elsi, cronfa ddŵr yng nghanol Coed Gwydir sydd â golygfa arbennig iawn ar draws Parc Cenedlaethol Eryri?

 

Roedd gorsaf Betws-y-coed dan ei sang, ac roedd llawer o bobl yn eistedd y tu allan i’r caffis ac ar y meinciau yn bwyta hufen iâ. Doedd arnaf i ddim eisiau aros, felly mi es i Food to Go (sydd ar y chwith wrth i chi fynd heibio’r orsaf) i gael cacennau cri ffres o’r maen – fy hoff fyrbryd pan fyddaf yn cerdded!

Mi es i ar draws Cae Llan heibio i’r toiledau ac i’r Ganolfan Groeso. Er fy mod i’n gwybod i ba le yr oeddwn i’n mynd, roedd arnaf i eisiau gwybod pa wybodaeth oedd ar gael yn y Ganolfan Groeso i ymwelwyr. Bu iddyn nhw roi map o’r pentref i mi yn rhad ac am ddim, a sôn am y lle gorau i mi fynd i ddechrau cerdded i fyny at Lyn Elsi. Bu iddyn nhw hefyd egluro bod yna becyn, wedi ei ddatblygu gan y Comisiwn Coedwigaeth (Cyfoeth Naturiol Cymru), gyda mapiau a chardiau gwybodaeth unigol am 14 o deithiau lleol. Dim ond £3 oedd pris y pecyn yma – bargen – ac mae’n werth ei brynu os ydych chi’n aros am ychydig ddyddiau.

 

O’r fan hyn mi gerddais tuag at y Dderwen Frenhinol ac yna ar hyd y ffordd rhwng Cotswold Outdoor ac Eglwys y Santes Fair. I fyny’r allt â mi o fan hyn gan droi i’r chwith ar ôl y maes parcio i fynd ar y llwybr. Roedd hi’n oddeutu 2.30pm erbyn i mi ddechrau’r daith ei hun.

 

Ac mae’n dipyn o allt!* Mae’r ychydig gannoedd o lathenni cyntaf drwy’r coed yn waith caled. Ond mae yna fainc groesawus ran o’r ffordd i fyny i chi gael seibiant os oes angen.

 

Mae’n llwybr hawdd ei ddilyn. Dilynwch y saethau gwyn a’r marciau ôl troed yr holl ffordd i fyny ac yna’n ôl i lawr i’r pentref – ond cofiwch gymryd y llwybr i’r dde yn y gyffordd gyntaf y dewch ar ei thraws.

 

Mae’r llwybr yn eithaf llydan ac yn esmwyth o dan eich traed. Mi benderfynais wisgo treinyrs gan ei bod hi’n braf ond, pe byddai’r tywydd wedi bod yn wlyb a’r llwybr yn fwdlyd, neu os oes arnoch chi angen gwisgo rhywbeth i gynnal eich ffêr, mi fuaswn i’n argymell gwisgo esgidiau cerdded.

 

Mae hi mor dawel yn y goedwig. Roedd y dail yn dechrau disgyn a’r cwbl yr oeddwn i’n gallu ei glywed oedd yr adar yn canu a’r dŵr yn llifo. Dim ond chwe pherson y bu i mi weld ar fy nhaith.

 

I fyny â mi ar hyd y llwybr ac, yn wir i chi, mae’r llwybr yn mynd yn llai serth wrth i chi nesáu at y llyn. Ar ddiwrnod braf mi fyddwch chi’n gwybod eich bod chi bron yno oherwydd mi ddechreuwch chi weld y mynyddoedd trwy’r coed. Wrth i chi nesáu at y llyn a mynd heibio’r ardal sydd wedi ei chynhaeafu, edrychwch i fyny i weld mynydd bendigedig Moel Siabod, sef y mynydd uchaf a welwch chi. Mae’n lle hyfryd ac yn fynydd gwych i’w cherdded, un o fy hoff fynyddoedd yn Eryri.** Mae rhai o’r bryniau eraill a welwch chi ar ddiwrnod clir, i’r dde o Foel Siabod, yn cynnwys y Foel Goch a Mynydd Cribau.

 

Cadwch lygad am y cerrig a’r arwyddion a dilynwch y llwybr i’r de o amgylch y llyn. Mae’r llwybr o amgylch y llyn yn eithaf cul ond mae’n eithaf hawdd dan draed, y rhan hon beth bynnag. Mae yna fannau hyfryd wrth lannau’r llyn i eistedd a mwynhau’r olygfa, neu i gael picnic bach.

Fodd bynnag, mae’r golygfeydd gorau ychydig ymhellach wrth ymyl yr heneb. Ac yn y fan hyn y bu i mi sylweddoli pa mor dawel a heddychlon ydi hi yma. Mae’n lle gwych i ddal ychydig o haul ar ddiwedd diwrnod braf, pan fydd wedi hen ddiflannu o’r pentref. Doedd ‘na ddim hyd yn oed gwylanod i darfu ar y llonyddwch heddiw!

 

Roedd y golygfeydd o’r heneb ar draws y Carneddau yn odidog. Mae’n fy rhyfeddu i o hyd sut mae’r un olygfa o Eryri yn newid yn dibynnu ar yr amser, y tywydd a’r golau. Heddiw roedd gennyf i ormod o ddewis, yr olygfa ar draws i’r Carneddau a’r olygfa ar draws y llyn yn gwylio’r dŵr yn symud ar haul yn tywynnu arno.

 

Os fedrwch chi lusgo’ch hun o’r llecyn tawel yma, dilynwch yr arwyddion gwyn i’r chwith heibio’r heneb.

Llyn Elis, Betws Y Coed

Mae yna ychydig o lwybrau yn mynd i gyfeiriadau gwahanol o’r heneb. I ddweud y gwir, mae yna lwybrau gwahanol drwy’r goedwig a dw i’n siŵr, petaech yn cerdded yma pob diwrnod o’r flwyddyn, na fyddech chi’n cymryd yr un llwybr ddwywaith. Dydw i ddim yn argymell hyn o gwbl, oni bai bod gennych chi fap a chwmpawd ac yn gwybod sut i’w ddefnyddio, gan fod hi’n hawdd iawn mynd ar goll yma. Neu, gwnewch yn siŵr hefyd eich bod chi’n lawrlwytho ap ViewRanger ar eich ffôn (mae hwn wedi fy helpu sawl gwaith!).

 

Beth bynnag am hynny, cadwch at y llwybr a fedrwch chi ddim methu. Ar ôl yr heneb fe ddowch chi at yr argae. Mae’n werth mynd oddi ar y llwybr i fyny at yr argae i weld y golygfeydd ar draws y llyn. Heddiw mi welais i dri gwas y neidr bach, ac am hyfryd.

 

I lawr o’r argae ewch dros y bont fach a dilynwch y llwybr. Mae’r llwybr yn eithaf cul rŵan tan gyrhaeddwch chi brif lwybr y goedwig, a dydi’r llwybr ddim mor esmwyth o dan eich traed chwaith. Dw i wrth fy modd efo’r llwybr yma, mae’n gwneud i mi deimlo fel anturiaethwr; yn hel mwyar, yn ymlwybro dros wreiddiau coed a chamu dros byllau (a dyna pam y dylwn i fod wedi gwisgo fy esgidiau cerdded!).

 

Ym mhen pellaf y llyn fe ddowch chi at bont fach ac yna ran serth fer annisgwyl, cyn i chi droi i’r chwith a mynd tuag at brif lwybr y goedwig. A dyma fi’n dechrau synfyfyrio ac yna sylweddoli nad oeddwn i wedi gweld arwydd ers peth amser ond, drwy lwc, fe ymddangosodd un o’m blaen.

 

Wrth i mi anelu am brif lwybr y goedwig, gyda golygfeydd o’r llyn, mi ges i’r anrhydedd o weld jet o RAF y Fali’n gwibio dros fy mhen.

 

Dilynwch yr arwyddion yn ôl i lawr y llwybr y daethoch i fyny. ‘Da chi’n cofio’r rhan gyntaf? Mae’n dal yr un mor serth! Yn igam-ogam mi es i lawr y llwybr, er mwyn arbed ychydig ar fy nhraed a’m pengliniau, a gan fy mod i ar ben fy hun doedd dim ots os oeddwn i’n cymryd fy amser.

Lunch at The stables in Betws Y Coed.

Roeddwn i’n ôl yn y pentref erbyn 4.30, ond efallai yr hoffech chi ganiatáu hyd at 3 awr ar gyfer y daith – a pheidiwch â phoeni, mi fydd yna hen ddigon o amser i gael panini cyw iâr a sglodion tatws melys o’r Stablau wedyn. Lle gwych i eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio.

 

 

Mi nes i amseru’r daith i gyd-fynd â’r trenau canlynol (yn ystod yr wythnos):

Gadael Llandudno am 1308 a chyrraedd Betws-y-coed am 1358

Gadael Betws-y-coed am 1804 a chyrraedd Llandudno am 1853.

 

Bu i mi gerdded 4 milltir.

 

 

*Mae’n werth nodi yma, os ydych chi newydd ddod oddi ar y trên, bod yna daith hyfryd o amgylch y cwrs golff sy’n cymryd oddeutu 30 i 40 munud. Ewch trwy’r giât wen ar y chwith wrth i chi ddod allan o’r Ganolfan Groeso. Mae ‘na arwydd preifat ond mae ‘na hefyd arwydd llwybr troed cyhoeddus. Dilynwch y llwybr o amgylch y cwrs golff a heibio’r man y mae’r ddwy afon yn ymuno (Afon Llugwy ac Afon Conwy). Taith wych i gynhesu i fyny ar gyfer yr allt serth sydd o’ch blaenau! Yn y pen pellaf byddwch yn cerdded heibio i Eglwys Sant Mihangel a godwyd yn y bymthegfed ganrif ac, os oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes a hen feddau fel minnau, mi fyddwch chi wrth eich bodd. Mi allwch chi hefyd gerdded dros Bont y Soldiwr (Sappers). Mae’r wybodaeth sydd y tu mewn i’r eglwys yn rhoi cipolwg diddorol i chi o hanes y pentref cyn i’r rheilffordd gael ei hadeiladu.

 

 

**Os ydych chi’n gerddwr profiadol ac yn chwilio am her fwy, beth am gerdded i fyny Moel Siabod o Gaffi Moel Siabod ar yr A5 oddeutu 4 milltir o Fetws-y-coed tua Bangor. Gallwch ddal y Bws Sherpa yno.

 

Fe allwch chi hefyd ddal y Bws Sherpa i Ben-y-Pas neu Lanberis i gerdded i fyny’r Wyddfa.

 

Os ydych chi’n penderfynu gwneud hyn, peidiwch â mynd ar eich pen eich hun – ewch efo rhywun sy’n adnabod y mynyddoedd.

 

 

 

 

 

Tracey Breese, Breese Adventures.

Mae Tracey Ann Breese yn rhedeg Breese Adventures gyda’i gŵr, Stiwart. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn Eryri ers pedair blynedd bellach yn darparu teithiau cerdded tywysedig, anturiaethau wedi eu teilwra a heriau elusennol.

 

Mae Tracey wrth ei bodd yn ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan i’r awyr agored a mynd ar anturiaethau, gan eu hannog i archwilio’r amgylchedd naturiol a dysgu amdanyn nhw eu hunain drwy fynd ar antur neu ymgymryd â her.

 

 

Comments are closed.