7 o Draddodiadau Nadolig y Cymry

Fel pob gwlad sy’n dathlu’r Nadolig, mae gan Gymru ei set unigryw o draddodiadau ac arferion. Mae llawer ohonynt wedi diflannu erbyn hyn, ond ar ryw adeg roedd pob un o’r rhain yn draddodiadau oedd yn cael eu dathlu ar hyd a lled y wlad. O’r rhai annwyl a thwymgalon, i rai ychydig yn rhyfedd, rydym wedi gwneud ychydig o waith ymchwil.

Celyn ac Uchelwydd

Mewn nifer o wledydd, mae celyn ac uchelwydd wedi cael eu mabwysiadau fel symbolau ar gyfer y Nadolig, ond gan fod uchelwydd yn blanhigyn cysegredig i’r Derwyddon hynafol, nid yw’n syndod bod y Cymry yn addurno eu tai gyda llawer ohono, i amddiffyn eu teulu rhag drwg.

Yn aml caiff y tŷ ei addurno gyda chelyn hefyd, ac mae’r celyn yn cael ei ystyried yn symbol o fywyd tragwyddol.

 

 

Plygain

Un o ddefodau Nadoligaidd mwyaf enwog Cymru ydi’r Plygain, sydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Nadolig. Yn draddodiadol byddai dynion yn ymgynnull mewn eglwysi gweledig yn fuan yn y bore, rhwng 3am a 6am, i ganu carolau mewn gwahanol leisiau, yn bennaf yn ddigyfeiliant.

Bu bron i’r traddodiad ddiflannu, ond dros y blynyddoedd diweddaf, bu atgyfodiad yn ei boblogrwydd, gan gynnwys yn rhannau o ogledd Cymru.

Gwneud Cyflaith

Tra’n aros am y Plygain, byddai nifer o aelwydydd yn cymryd rhan yn y traddodiad hwyliog a blasus o wneud cyflaith Byddai cyflaith yn cael ei ferwi mewn sosbenni dros dannau agored a phan fyddai bron â chael ei goginio, byddai darnau mawr ohono’n cael ei ollwng mewn i ddŵr rhewllyd.

Cyn gynted ag y byddai’r cyflaith yn taro’r dŵr, byddai’n cyrlio mewn i siapiau a fyddai’n debyg i lythrennau yn aml. Byddai aelodau iau o’r teulu yn aml yn ystyried hyn yn arwydd o enw eu cariad yn y dyfodol.

Y Fari Lwyd

Mae’r Fari Lwyd yn arfer sydd yn cael ei gysylltu fwyaf â de Cymru, a than yn ddiweddar roedd bron â diflannu – er mae ychydig o fyfyrwyr prifysgol yn ceisio adfywio’r arfer.

Byddai penglog ceffyl a oedd wedi’i addurno gyda chlychau a’i orchuddio â rhubanau lliwgar yn cael ei gario ar bolyn o ddrws i ddrws. Byddai cerddi yn cael eu hadrodd yn Gymraeg ym mhob drws.

Byddai’r rhai y tu mewn yn ateb mewn penillion gan wrthod mynediad i’r Fari Lwyd nes i’r frwydr pwnco gael ei hennill (sef y frwydr o benillion a thynnu coes). Fe gafodd y traddodiad enw gwael am feddwdod a fandaliaeth a oedd yn annerbyniol yn ôl yr eglwys. Yn y pendraw, cafodd y penillion a sarhadau eu disodli gan garolau mwy bonheddig.

Gwasael

Cyn i win poeth a phwnsh fod yn boblogaidd, roedd y Cymry wedi sortio’r diodydd Nadoligaidd!

Fe fyddent yn yfed cymysgedd o ffrwythau, sbeisys a siwgr gydag ychydig o gwrw cynnes o Wasael – bowlen wedi’i haddurno’n gymhleth gyda sawl handlen. Wrth iddo gael ei basio o berson i berson, fe fyddai’r yfwyr yn gwneud dymuniad am flwyddyn dda o ffermio a chnwd helaeth adeg y cynhaeaf.

 

Taro gyda Chelyn

Diolch i’r drefn, fe ddiflannodd yr arfer yma yn niwedd y 19eg Ganrif! Ar Ŵyl San Steffan, byddai dynion ifanc yn taro breichiau neu goesau merched ifanc gyda changhennau o gelyn nes iddynt waedu. Mewn rhannau eraill, byddai’r person olaf i godi o’r gwely yn y bore yn cael eu taro gyda brigau o gelyn – aw!!

Dydd Calan

Yn ôl llên gwerin Gymreig, os mai dynes oedd yr ymwelydd cyntaf i dŷ ar Ddydd Calon, ac os mai gŵr o’r aelwyd agorodd y drws, roedd yn golygu lwc ddrwg. Roedd yr un yn wir am ddynion pengoch! Yn ôl y Cymry, ni ddylid fyth benthyg unrhyw beth i unrhyw un ar Ddydd Calan.

Rhwng y wawr a hanner dydd ar ddydd Calan, byddai bechgyn ifanc yn ymweld â thai’r pentref gan gario brigau bytholwyrdd a chwpan o ddŵr oer o’r ffynnon leol. Fe fyddent yn defnyddio’r brigau i sblasio dŵr dros bobl. Yn gyfnewid, fe fyddent yn derbyn calennig a fyddai fel rheol ar ffurf ceiniogau.

Wrth gwrs, dydi’r Nadolig ddim wirioneddol drosodd tan ar ôl y deuddegfed noson, ac mae gan y Cymry draddodiad sydd yn dathlu hynny hefyd. Ar y deuddegfed oson, byddai’r dynion yn mynd allan i ‘Hela’r Dryw’ – fe fyddent yn mynd o ddrws i ddrws gydag aderyn bychan mewn bocs pren. Byddai preswylwyr yn talu am yr anrhydedd o gael cipolwg ar yr aderyn bach druan!

 

Comments are closed.