Mae ar Reilffordd Dyffryn Conwy eisiau estyn croeso cynnes i Claire Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol newydd Rheilffordd y Cambrian
Mae ar Reilffordd Dyffryn Conwy eisiau estyn croeso cynnes i Claire Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol newydd Rheilffordd y Cambrian. Yr wythnos hon bu i Melanie Lawton, Swyddog Rheilffordd Gymunedol, gwrdd â Claire a David Cruncorn, Rheolwr Gorsaf Trenau Arriva Cymru, yng Ngwesty Isallt, Blaenau Ffestiniog, dros baned.
Mae’r cydweithio rhwng y ddwy bartneriaeth reilffordd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni bellach yn gweithio’n agosach nag erioed i hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol, diogelwch ar y rheilffyrdd ac i rannu adnoddau i greu ymgyrchoedd marchnata ar y cyd ac i lunio dogfennau strategol.
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Pob hwyl i chdi yn dy swydd newydd Claire.