Gwobrau Cymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol 2017
Yn ystod 13eg Gwobrau Cenedlaethol Rheilffyrdd Cymunedol, a fynychwyd gan 430 o bartneriaethau, grwpiau, arweinwyr diwydiant a chynrychiolwyr o’r llywodraeth, rhoddwyd sylw i ystod o brosiectau, digwyddiadau a chynlluniau rheilffordd gymunedol arloesol a thrawiadol.
Wedi eu trefnu gan Gymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, cynhaliwyd y gwobrau eleni gan Drenau Dwyrain Canolbarth Lloegr yn ystod cinio mawreddog yn The Roundhouse, Derby, ar 5 Hydref. Mae’r digwyddiad yn mynd o nerth i nerth pob blwyddyn, ac eleni derbyniwyd 201 o enwebiadau.
Mae’r Roundhouse yn Derby yn adeilad rhestredig gradd II. Bellach yn gampws coleg, mae eu prosbectws yn disgrifio’r adeilad fel hen siediau a storfeydd injans, lle dyluniwyd ac adeiladwyd miloedd o drenau a cherbydau rhwng 1839 a’r 1960au. Mae’r adeilad wedi ei ailwampio’n llwyr a bellach yn amgylchedd dysgu ar gyfer myfyrwyr Coleg Derby (www.derby-college.ac.uk). Canolbwynt y coleg yw’r tŷ crwn ei hun, un o enghreifftiau hynaf o bensaernïaeth rheilffyrdd Oes Fictoria. Wedi ei godi yn 1839 fel sied ar gyfer injans stêm, mae’r gofod crwn bellach yn fan cyfarfod, caffi a lleoliad adloniant bywiog.
Eleni cyrhaeddodd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy restr fer 4 o wobrau.
- Cynnwys Pobl Ifanc
-
- Chwedlau ar Gledrau
-
- Cynllun Celf Cymunedol
-
- Lluniau Rheilffordd Dyffryn Conwy a’r Cambrian
-
- Digwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned Gorau
-
- Strafagansa Nadolig Dyffryn Conwy a’r Cambrian
-
- Yr Ymgyrch Farchnata neu Gyfathrebu Orau
-
- Cynllun Cyfathrebu a Marchnata Rheilffordd Dyffryn Conwy
-
Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi bod y Strafagansa Nadolig wedi ennill yr ail wobr! Llongyfarchiadau i’n holl gydweithwyr am gyrraedd y rhestr fer. Roedd yn noson fendigedig i ddathlu llwyddiant a bu i ni adael Derby gyda llond carejis o ysbrydoliaeth ar gyfer 2018.