Mae Mabwysiadwyr Gorsaf Gogledd Llanrwst wedi bod yn chwilio am gwch ers misoedd ac o’r diwedd maent wedi dod o hyd i un!
Mae Mabwysiadwyr Gorsaf Gogledd Llanrwst wedi bod yn chwilio am gwch ers misoedd ac o’r diwedd maent wedi dod o hyd i un!
Aethant ati i baratoi’r cwch, gwnaeth partner un o’r aelodau waith gwych yn adnewyddu’r cwch bach ac ysgrifennu ‘Llanrwst North Station Adopters’.
Treuliodd y grŵp fore hwyliog yn llenwi’r cwch â phlanhigion.
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol “Mae aelodau’r gymuned a defnyddwyr y rheilffordd eisoes wedi sylwi pa mor hyfryd y mae’r orsaf yn edrych, mae Mabwysiadwyr yr Orsaf yn grŵp prysur o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i’r blodau a gerddi’r orsaf. Mae’n wych gweld gorsaf Gogledd Llanrwst yn ei blodau”
Cynllun Mabwysiadu Gorsafoedd Trenau Arriva
Nod y cynllun ‘Mabwysiadu Gorsaf’ yw ceisio gwella cysylltiadau â chymunedau lleol a chwsmeriaid sy’n byw ger gorsafoedd trenau nad ydynt yn cael eu staffio.
Mae amcanion y cynllun yn debyg i amcanion y cynllun ‘Gwarchod Cymdogaeth’ lle mae trigolion lleol yn ein helpu i gadw llygad ar orsafoedd rheilffordd nad ydynt yn cael eu staffio.
Rydym am gadw ein gorsafoedd di-staff yn lân ac yn bleserus, felly bwriad y cynllun hwn yw annog adborth rheolaidd am y cyfleusterau sydd ar gael. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gennych chi, ein cwsmeriaid.
Felly beth mae mabwysiadwyr gorsafoedd yn ei wneud? Fel mabwysiadwr, y prif ofyn arnoch yw cyflwyno o leiaf dau adroddiad y mis am gyflwr yr orsaf. Byddwn yn gofyn i chi adrodd am faterion fel sbwriel, graffiti, fandaliaeth, goleuadau, pwyntiau gwybodaeth a help a gwybodaeth am amserlenni. Os oes unrhyw broblemau i’w datrys, bydd Rheolwr yr Orsaf yn sicrhau fod ein gweithwyr cynnal a chadw yn ymwybodol ohonynt fel y gallant fynd i’r afael â nhw.
Mewn rhai gorsafoedd efallai y bydd modd i chi ofalu am botiau blodau neu ardd yr orsaf. Mae gennym sawl enghraifft wych o wirfoddolwyr yn cynnal a chadw eu gerddi i safon uchel iawn ac mae nifer ohonynt yn cael eu cydnabod drwy ennill gwobrau cenedlaethol.
Nid oes gofyn i unrhyw fabwysiadwyr ymrwymo’n ariannol ac nid oes gofyn i chi wneud unrhyw waith glanhau na chynnal a chadw gan fod y rhain yn cael eu cyflawni’n wythnosol gan ein staff ni. Gallwch fabwysiadu gorsaf fel unigolyn neu fel rhan o grŵp.
Am eu cefnogaeth bydd mabwysiadwyr yn cael talebau teithio blynyddol i’w defnyddio ar unrhyw ran o rwydwaith rheilffyrdd y DU.
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i un o bum cynhadledd ranbarthol flynyddol a gynhelir yn y gwanwyn yn Abertawe, Caerdydd, Amwythig, Portmeirion a Chaer; ble gallwch gwrdd â mabwysiadwyr eraill a chael y newyddion diweddaraf yn y busnes.
I ganfod pa orsafoedd sydd ar gael i’w mabwysiadu, edrychwch ar ’Gorsafoedd sydd ar gael i’w mabwysiadu <http://www.arrivatrainswales.co.uk/StationsAvailable>. Os na allwch weld eich gorsaf leol, bydd eisoes wedi’i mabwysiadu – gweler ’Gorsafoedd sydd wedi’u mabwysiadu <https://www.arrivatrainswales.co.uk/AdoptedStations>.
I ganfod mwy am sut i fabwysiadu gorsaf, cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu anfonwch e-bost at community@arrivatw.co.uk.