Sbotolau ar yr Orsaf: Llandudno

Wyddoch chi, dim ond un trên all deithio ar hyd Rheilffordd 31 milltir Dyffryn Conwy ar unrhyw un adeg?

Mae eich taith yn dechrau ar arfordir Llandudno ac yn dod i ben ym Mlaenau Ffestiniog yng nghalon Eryri, cyn gwneud y daith yn ôl, ond mae llawer o’r gorsafoedd ar hyd y ffordd â straeon anhygoel i’w hadrodd a phethau i’w gweld hefyd. Mae’r daith hon yn llawer mwy nag eistedd yn ôl a mwynhau’r olygfa!

Yn y gyfres hon ar y blog, byddwn yn edrych yn agosach ar bob un o’r deg gorsaf ar hyd Llinell Dyffryn Conwy, gan rannu hanes diddorol y gorsafoedd a’r ardal gyfagos.

Os byddwch yn gadael yn ystod unrhyw un o’r gorsafoedd, gallwch ddisgwyl amser aros sydd tua thair awr, felly byddwn hefyd yn edrych ar bethau i’w gweld a’u gwneud yn agos at y gorsafoedd. Rydym am i chi gael hwyl, ond nid ydym am i chi golli’ch trên yn ôl!

Fel y gallwch ei ddisgwyl, rydym yn dechrau ein taith gyda’r orsaf gyntaf ar y llinell – Llandudno.

Gorsaf Llandudno – yr hanes

Agorodd Gorsaf Llandudno ym 1858 fel adeilad un llawr, wedi’i adeiladu o gerrig. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol i wneud y gyrchfan yn lle rhad y gall pobl gyffredin ymweld â hi’n rhwydd. Yn y dyddiau cynnar, roedd nifer y trenau mor fach fel y byddai ceffylau’n cael eu defnyddio’n aml i dynnu cerbydau ar hyd y trac.

Adeiladwyd yr adeilad y gwelwn ni nawr ym 1892, ac fe gafodd ei orchuddio gan ganopi gwydr syfrdanol. Yn ôl y sôn, roedd hyn oherwydd bod yr Arglwydd Mostyn eisiau amddiffyn ei gyrchfan soffistigedig rhag mwg y trenau! Yn anffodus, dymchwelwyd y rhan fwyaf ohono ym 1990.

Roedd pum platfform, gyda thrên yn cyrraedd bob pedwar munud yn ystod cyfnodau prysur. Adeiladwyd ffordd gobls, y gellir ei gweld hyd heddiw, rhwng platfform Dau a Thri i ganiatáu cabiau i barcio ochr yn ochr â’r cerbydau trên.

Hyd nes yn eithaf diweddar, Gorsaf Llandudno oedd lle y byddai dynion busnes gogledd Cymru’n dechrau eu taith ddyddiol i Fanceinion. Am 07:40 bob bore yn ystod yr wythnos, byddai trên o’r enw’r Clubman yn gadael yr orsaf, a byddai aelodau o’r ‘Clwb’ yn cymryd eu seddi parhaol.

Bob bore, byddai eu papur newydd rheolaidd yn cael ei adael ar eu cadair ac roeddent hefyd yn cael locer i gadw eu tybaco, pibellau neu sigarau – dychmygwch hynny heddiw! Cafodd aelodau’r Clwb frecwast wedi’i weini iddynt yn eu seddi hefyd. Daeth cerbydau’r clubman i ben yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond roedd y trên 07:40 yn dal i fynd i Fanceinion, ac fe gafodd ei gyfeirio ato fel y Clubman hyd nes iddo ddod i ben yng nghanol y 1960au.

Yn 2014, cwblhawyd gwaith ailwampio gwerth miliynau o bunnoedd gan Network Rail. Gan fod yn sensitif i dreftadaeth yr orsaf, cynhwysodd y datblygwyr rai o’r nodweddion gwreiddiol, fel yr arwyddion semaffor a’r blwch arwyddion â llaw.

Cyfleusterau’r orsaf:

  • 130 o lefydd parcio Talu ac Arddangos;
  • Ffôn talu (sy’n derbyn cardiau ac arian);
  • Toiledau (ar gyfer amseroedd agor, cliciwch yma);
  • Ystafell aros (ar gyfer amseroedd agor, cliciwch yma);
  • Ramp i gael mynediad i’r trên;
  • Mynediad heb risiau;
  • Stand i feics.

Gorsaf Llandudno

Llandudno dros y blynyddoedd

Llandudno yw’r gyrchfan glan y môr fwyaf yng Nghymru, ac fe gyfeirir ati’n aml fel ‘Brenhines Cyrchfannau Cymru’. Mae’n gyrchfan sy’n llawn hanes, gan ymestyn cyn belled yn ôl â’r Oes Haearn, ond mae’n fwyaf adnabyddus am ei threftadaeth a phensaernïaeth Fictoraidd.

Mae Mwynglawdd y Gogarth yn dangos bod dynion o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn wedi byw a gweithio yn yr ardal. Dechreuodd y mwyngloddio tua 4,000 mil o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben yn y 1850au pan nad oeddent yn gallu cael mwy allan o’r garreg. Gallwch dal fynd i weld y mwyngloddiau yn y Gogarth – sef y rhai hynaf yn y byd i gyd sy’n agored i ymwelwyr!

Cyn iddi ddod yn gyrchfan Fictoraidd ffasiynol, roedd y cynlluniau ar gyfer Llandudno wedi bod yn wahanol iawn. Bwriadwyd cael y dref yn un o’r prif borthladdoedd llongau fferi i Iwerddon, ond fe wnaeth storm fawr ddifrod y pier a dod â’r cynlluniau yna i ben. Symudwyd terfynfa’r llongau fferi i Gaergybi, ac fe ddatblygodd Llandudno ei hun fel cyrchfan glan y môr ffasiynol ar gyfer twristiaid Fictoraidd chwaethus yn lle hynny.

Mae Llandudno wedi parhau i fod yn un o’r cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd yn y wlad, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae’r cyfuniad o olygfeydd godidog, hanes cyfoethog ac atyniadau hyfryd yn apelio i’r hen â’r ifanc fel ei gilydd, ac mae llawer o bobl yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Great Orme Tramway

Yn Llandudno ac o gwmpas

Mae Llandudno’n lle gwych i dreulio ychydig o oriau. Mae cymaint i chi ei wneud nad oes angen i chi deithio fawr ddim o’r orsaf. Boed a ydych awydd mynd i chwarae ar y traeth, neu gerdded ar y pier, gwneud ychydig o siopa, cael tamaid i’w fwyta, neu edrych ar y golygfeydd godidog, mae gan y dref y cyfan.

Mae’r pier Fictoraidd ar Draeth y Gogledd yn lle gwych i fynd am dro bach hamddenol. Y pier 700 metr o hyd yw’r hiraf yng Nghymru, ac mae digon o arcedau a reidiau ffair, a chabanau’n gwerthu pob mathau o bethau, o fagnetau i’w rhoi ar yr oergell a llyfrau, i gregyn a melinau gwynt.  Mae yna far caffi ar ben y pier i fwynhau paned neu beint, cyn mynd yn ôl ar y tir mawr – yn ystod yr haf mae band jas yn chwarae yma’n rheolaidd hefyd.

Wrth gwrs, ni fyddai ymweliad â Llandudno’n gyflawn heb fynd i fyny’r Gogarth. Ewch at y copi i gael eich gwobrwyo gyda golygfeydd syfrdanol o’r môr a’r ardal gyfagos. Ar ddiwrnod clir gallwch weld cyn belled â Lerpwl!

Yn agored o Ebrill hyd at fis Hydref (yn dibynnu ar y tywydd – bydd yn sicr ddim yn symud ar ddiwrnod gwyntog!) Heb unrhyw amheuaeth, car cebl enwog Llandudno yw’r ffordd orau i fynd i fyny’r Gogarth. Mae’r car cebl yn dechrau yn y Fach, gan fynd i fyny’n braf at y copa, gan roi digonedd o gyfleoedd tynnu lluniau i chi.

Ar y copa, treuliwch ychydig o oriau’n archwilio’r dirwedd wyntog, gan ysgrifennu eich enw ar y cerrig yn Chwarel yr Esgob, neu cadwch lygad am un o’r bwch geifr Cashmir direidus sydd ar hyd yr ardal.

Ymlaciwch yn Adeilad y Copa – mae yna gaffi a bar ar thema paffio (y pencampwr paffio, Randolph Turpin, oedd yn berchen ar yr adeilad unwaith), man chwarae i blant, golff mini, canolfan i ymwelwyr a siop cofroddion.

Ar y ffordd yn ôl i lawr, ewch i’r King’s Head, tafarn hynaf Llandudno, yn yr hen ganol y dref. Gyda chwrw gwir a bwyd cartref blasus, mae’n lle gwych i gyfarfod y bobl leol a dysgu mwy am hanes y dref.

Os yw siopa mwy at eich dant chi, ni chewch eich siomi. Mae canol y dref yn llawn o enwau enwog a siopau preifat, yn ogystal â llefydd bwyta da iawn hefyd. Mae siopau cadwyn i’w canfod ychydig y tu allan i’r dref, gyda Pharc Llandudno a Mostyn Champneys yn llawn o enwau mawr, fel Primark, Debenhams a TK Maxx.

Pawb arni! Yr orsaf nesaf, Gorsaf Deganwy!

Comments are closed.