Croeso i Daith Trên ar Lein Dyffryn Conwy, o Arfordir Gogledd Cymru i Galon Eryri.
Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth ochr un o afonydd mwyaf Cymru, Afon Conwy, wedyn yn dilyn glannau’r Afon Lledr wyllt, wedi iddi uno ag Afon Conwy ym Metws-y-coed.
O’ch cychwyniad ger lan y môr yn Llandudno, hyd gyrraedd dyffrynnoedd dwfn Blaenau Ffestiniog, cewch amrywiaeth aruthrol o olygfeydd yn pasio o flaen eich llygaid. O gastell hanesyddol Conwy, heibio aber sy’n heigio o fywyd gwyllt, i fryniau lechweddog sy’n ildio i greigiau urddasol, wrth i’r trên groesi’r Afon Lledr wrth draphont drawiadol Pont Gethin.
Fe gewch gipolwg ar dirweddau arallfydol, fel petaent o fyd y tylwyth teg; castell mawreddog Dolwyddelan o’r 12fed ganrif, chwareli a lonydd hynafol, a choedwigoedd a chopaon uchel Eryri, cyn plymio i grombil y mynydd ac ailymddangos ychydig funudau’n ddiweddarach yn nhir diwydiannol hanesyddol Blaenau Ffestiniog, wrth union galon diwydiant chwarelyddol a chloddio llechi Cymru.
Yn sicr mae lein Dyffryn Conwy, a hithau’n 27 milltir o hyd, yn cynnig un o’r profiadau rheilffordd prydferthaf ym Mhrydain.
Mae’n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae’r gaeaf a’r… Read More
Wrth i’r dyddiau byrhau a’r nosweithiau dechrau oeri, does dim byd gwell… Read More
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd trigolion Dolwyddelan bellach yn elwa… Read More
Mae'r tocyn 1Bws ar gyfer gwasanaethau bysiau ar draws Gogledd Cymru bellach… Read More