Have your say on proposals to improve Holyhead station
Are you a Holyhead resident, business owner or visitor? Transport for Wales (TfW) is looking to transform Holyhead station into a local transport hub and needs your feedback on its proposals.
Options for improving the station cover a broad range of areas including signage, passenger facilities, active travel, integration between different modes of transport, the look and feel of the station and tackling anti-social behaviour.
The options consultation period began on 10 November and runs until 22 December 2022. You can find out about the proposals and complete an online feedback form by visiting: haveyoursay.tfw.wales/holyhead-station.
You can also access the information in Welsh from here. If you would prefer a paper feedback form in Welsh or English, these can be picked up from Holyhead station ticket office (Holyhead station, London Road, Holyhead LL65 2BT) or the Holyhead Market Hall (Holyhead Market Hall, Stanley Street, Holyhead, LL65 1HH).
If you have any questions or feedback, please get in touch:
- Email: holyheadstation@mottmac.com
- Phone: 01492 588 327 (please note this is a standard phoneline with usual charges)
- Post: Freepost HOLYHEAD STATION CONSULTATION (no stamp required)
The scheme is currently at an early stage so there are no detailed plans for any of the proposed options and TfW has not sought or secured any funding for the scheme as yet. The options presented are initial ideas only. Your feedback will help TfW build a case for funding and will help when choosing the preferred option(s) to take forward if funding is allocated.
The deadline for feedback is midnight on 22 December 2022.
Ydych chi’n byw yng Nghaergybi, yn berchennog busnes neu’n ymwelydd? Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) am drawsnewid gorsaf Caergybi yn ganolbwynt trafnidiaeth lleol ac mae angen eich adborth chi ar y cynigion.
Mae’r opsiynau ar gyfer gwella’r orsaf yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys arwyddion, cyfleusterau teithwyr, teithio llesol, integreiddio rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth, sut mae’r orsaf yn edrych a sut deimlad sydd yno a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori opsiynau ar 10 Tachwedd ac mae’n parhau tan 22 Rhagfyr 2022. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynigion a chwblhau ffurflen adborth ar-lein yma: trc/dweudeichdweud.trc.cymru/.
Gallwch hefyd gyrchu’r wybodaeth yn Gymraeg yma. Os byddai’n well gennych gael ffurflen adborth papur yn Gymraeg neu Saesneg, maent ar gael yn swyddfa docynnau gorsaf Caergybi (Gorsaf Caergybi, Ffordd Llundain, Caergybi LL65 2BT) neu Neuadd y Farchnad Caergybi (Neuadd y Farchnad Caergybi, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni:
- E-bost: holyheadstation@mottmac.com
- Ffôn: 01492 588 327 (sylwer mae hon yn llinell ffôn safonol gyda chostau arferol)
- Yn y post: YMGYNGHORIAD GORSAF CAERGYBI, Rhadbost (dim angen stamp)
Megis dechrau y mae’r cynllun ar hyn o bryd felly nid oes unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau arfaethedig ac nid yw Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio nac wedi sicrhau unrhyw gyllid ar gyfer y cynllun hyd yn hyn. Syniadau cychwynnol yn unig yw’r opsiynau a gyflwynir. Bydd eich adborth yn helpu Trafnidiaeth Cymru i lunio achos dros gyllid a bydd yn ei helpu i ddewis yr opsiwn(opsiynau) a ffefrir i’w symud ymlaen os dyrennir cyllid.
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw hanner nos ar 22 Rhagfyr 2022.