Siopau coffi gorau Conwy

Mae’n anodd peidio â chyffroi dros banad da o goffi a chacen. Mae’r DU wedi troi’n genedl o garwyr goffi yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Yn ôl Cymdeithas Coffi Prydain, rydym yn yfed tua 55 miliwn o gwpanau o goffi pob dydd – mae hynny’n lot o ‘Joe’!

Mae’n ymddangos fod y cynnwrf dros goffi wedi gafael yng ngogledd Cymru hefyd. Mae mwy a mwy o siopau coffi arbennig, gwreiddiol a lleol yn agor ar draws yr ardal, a phob un yn stori lewyrchus o lwyddiant cynyddol.

Ond beth sy’n ein denu i siopau coffi annibynnol?

Cawn ynddynt gyfle i ni eistedd yn ôl ac ymlacio, gwylio’r byd yn mynd heibio, sgwrsio gyda ffrindiau, ymgolli mewn llyfr da, neu dal i fyny â gwaith hyd yn oed – i gyd wrth fwynhau coffi gwych, wedi’i baratoi gyda ffa coffi o safon a pheiriant espresso Eidalaidd proffesiynol. Does dim yn ei guro.

Yma ac acw ar ein strydoedd mawr prysur, neu wedi cuddio mewn pentrefi gwledig, fydd gennych ddewis anhygoel o siopau coffi lleol gorau gogledd Cymru, a phob un o fewn cyrraedd hawdd i orsafoedd Reilffordd Dyffryn Conwy.

Dyma ein dewis ni o siopau coffi orau Dyffryn Conwy. Does dim dwywaith amdani, mae ganddyn nhw goffi gwych, sgyrsiau gwych a lleoliadau gwych hefyd.

O GANLYNIAD I GYFYNGIADAU CLOI LLEOL, MAE’N BOSIBL FYDD RHAI BUSNESAU AR GAU, NEU’N RHEDEG ORIAU CYFYNGEDIG. OS GWELWCH N DDA, GWIRIWCH Â NHW CYN YMWELD

Providero Fine Teas & Coffees
112 Mostyn Street, Llandudno

Dechreuodd Providero fywyd fel busnes coffi teithiol bach mewn hen fan Citroen, cyn cael ei siop stryd fawr gyntaf yng Nghyffordd Llandudno yn ôl yn 2014.

Wedi iddyn nhw brofi’n llwyddiant poblogaidd gyda phobl yr ardal, cododd y tîm Providero £30,000 drwy ymgyrch cyllid torfol er mwyn agor ail siop yn nhref glan môr Llandudno. Mae amcan y tîm yn syml; i ddod â choffi rhagorol a’r te dail orau i ogledd Cymru. Credwn eu bod yn gwneud gwaith ardderchog ohoni!

Mae’r lleoliad yn gyfoes a smart – mae’n wir dweud fod Providero yn hollol cŵl. Mae eu coffi wedi ei wneud o ffa wedi eu rhostio gan Heartland Coffi (busnes lleol llewyrchus arall), ac mae eu cacennau ffres a phrydau ysgafn yn hynod flasus.

The Olive Grove Deli & Cafe
81 Station Road, Deganwy

Allan am dro efo’r ci ac yn ffansio coffi? Anelwch yn syth am yr Olive Grove Deli & Cafe yn Neganwy. Mae’r bar coffi a’r delicatessen hwn yn fusnes teuluol sy’n croesawu cŵn ac wedi ei leoli’n agos at orsaf Deganwy – maen nhw’n gwneud panad gwych o goffi gyda dewis da o flasau gwahanol a suddog arbenigol.

Hefyd, os ydych chi yn yr ardal, mae’n lle hyfryd i gael cinio neu bryd ysgafn. Ystyrir eu paninis a’u brecwastau cartref, wedi’u paratoi â chig lleol o Ynys Môn, gyda’r goreuon gan bobl leol. Mae cacennau heb glwten a llefrith amgen ar gael hefyd, felly ceir rywbeth at ddant pawb.

L’s Coffee & Co, Cyffordd Llandudno a Chonwy
71B Conway Road, Llandudno Junction & 7 High Street, Conwy

Sefydlwyd L’s Coffee & Co yn 2010 gan berchnogion priod Lisa a Gaz. Mae’r ddwy gangen yn gwerthu coffi Masnach Deg a chacennau blasus.

Mae ganddyn nhw arlwy o fwydydd i fodloni pob chwant, o brydau ysgafn i paninis a thortïas wedi’u llenwi – ond y coffi a’r smŵddis sydd wir yn dwyn sylw.

Dim ond ychydig funudau o gerdded sydd o orsaf y Gyffordd, ac os cyrhaeddwch L’s rhwng 3yh a 4yh, cewch ddarn o gacen am ddim am brynu dau goffi. Mae gan y siop yng Nghonwy cwrt hyfryd y tu allan, sy’n ddelfrydol ar brynhawn hamddenol o haf.

Mae L’s yn estyn croeso cynnes iawn i gŵn hefyd, ac yn aml mae danteithion ar gael i’w cwsmeriaid blewog!

Caffi Contessa, Llanrwst
Ancaster Square, Llanrwst

Ble i fynd am goffi yng nghanol Llanrwst? Caffi Contessa, wrth gwrs! Caffi lleol a chyfeillgar, mae’n gwerthu cwpanau o goffi rhagorol a the arbenigol wedi’u paratoi’n ffres.

Os oes eisiau bwyd arnoch, mae eu brecwast boblogaidd yn fargen (ac ar gael fel opsiwn llysieuol gwych) yn ogystal â phrydau wedi’u coginio gartref. Mae eu cacennau te wedi bod yn lwyddiant ysgubol ar-lein a does dim rhyfedd – maen nhw’n werth chweil!

Alpine Coffee Shop, Betws-y-Coed
Station Approach, Parc Cenedlaethol Eryri, Betws-y-Coed

Mae’r Alpine Coffee Shop yn gaffi gydag achos. Maen nhw’n cefnogi elusen ar gyfer epaod sydd mewn perygl yn Camerŵn, trwy elw a godir a rhoddion a wneir yn y siop, felly bydd eich americano yn gwneud gwahaniaeth!

Mae Alpine yn gweini coffi blasus, te dail rhydd, smŵddis a bwyd cartref, a nid yw eu cynnyrch yn cynnwys unrhyw olew palmwydd.

Byddwch hefyd yn gallu gweld eu harddangosfa gelf barhaol o ffotograffau a phaentiadau sy’n amlygu epaod mewn argyfwng.

Rydyn ni wrth ein boddau ag Alpine Coffee, ac mae gennym gymaint o gefnogaeth i’r gwahaniaeth aruthrol maen nhw’n ei wneud i achos y creaduriaid godidog hyn – sicrhewch eich bod yn galw heibio am banad o goffi a chacen i gefnogi achos arbennig.

Isallt Coffee Shop, Blaenau Ffestiniog
39 Church Street, Blaenau Ffestiniog

Am gwpaned â golygfa, ewch i gaffi Isallt Coffee Shop. Wedi’i leoli uwchben gorsaf reilffordd Blaenau Ffestiniog, mae gan deras y caffi olygfeydd syfrdanol o’r mynyddoedd a chwareli sy’n amgylchynu’r dref.

Maen nhw’n gwerthu cacennau cartref, cinio, sudd ffrwythau, a choffi wedi mwydo’n araf, i gyd o ansawdd gwych. Gyda phrisiau’n rhesymol, bwyd ardderchog a lleoliad ysblennydd – am beth arall allech chi ofyn?

Dyna’n hoff mannau coffi ni ar hyd llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy, ond byddem wrth ein boddau cael clywed am eich ffefrynnau chi – rhannwch eich hoff lefydd am banad ar ein tudalennau Facebook neu Trydar.