5 Traddodiad Cymreig

Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n wlad llawn hanes, mythau a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Oes, mae gan nifer o genhedloedd dreftadaeth ddiwylliannol yr un mor gyfoethog, ond i ni Gymry, mae iddi le arbennig yn ein calonnau.

Mae’r gair ‘hiraeth’ yn air unigryw i Gymru na ellir ei gyfieithu’n uniongyrchol i’r Saesneg. Fe allech chi ei ddisgrifio fel ‘teimlo cariad tuag at ein gwlad a phopeth ynddi, y gorffennol a’r presennol’.   Credwn mai dyma pam ein bod wrth ein boddau’n dathlu ac yn rhannu ein diwylliant; mae’n dod â Chymru ein hieuenctid – ein calonnau – yn agos atom eto.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus

Mae adeg yma’r flwyddyn yn amser arbennig iawn i’r Cymry. Ar y 1af o Fawrth rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ein nawddsant yw Dewi, a oedd yn esgob o’r 6ed ganrif y credir iddo fod yn ŵyr i frenin Ceredigion.

Credir mai Dewi a sefydlodd Cristnogaeth yng Nghymru ac fe’i cysylltir â dysgu a charedigrwydd tuag at eraill. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, anogir plant ysgol i ddynwared caredigrwydd Dewi trwy wneud eu ‘pethau bychain’ eu hunain, fel helpu golchi’r llestri neu dacluso eu hystafell wely.

Fel pob sant gwerth ei halen, fe gyflawnodd Dewi fwy na digon o wyrthiau.  Digwyddodd un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn Llanddewi Brefi yn y Canolbarth, pan gododd bryncyn bychan yn y man lle’r oedd yn sefyll yn pregethu – fel petai angen mwy o fryniau yng Nghymru!

Un arall, mwy arswydus, yw gwyrth y gannwyll gorff. Gweddïodd Dewi y byddai ei bobl yn cael eu rhybuddio ymlaen llaw o’u marwolaeth er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y bywyd tragwyddol, ac atebodd Duw ei weddi. Byddai pobl Cymru’n cael eu rhybuddio ymlaen llaw pryd a ble y gellid disgwyl marwolaeth gan olau gwan canhwyllau cwyr dirgel. Yn ôl y sôn, mae cannwyll gorff, sef golau’n tywynnu neu belen o dân, yn ymddangos ger cartref y sawl sydd ar fin marw.

Heddiw, mae trefi, pentrefi ac ysgolion ar hyd a lled Cymru’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda gorymdeithiau, gan wisgo gwisg draddodiadol a symbolau cenedlaethol Cymru, sef y Cennin Pedr (i ferched) a’r genhinen (i ddynion).

Beth am i ni barhau ein thema o ddiwylliant a thraddodiad mewn parch at Dewi Sant drwy edrych yn fanylach ar rai o draddodiadau mwyaf poblogaidd Cymru.

Llwyau Caru 

Llwyau pren yw’r rhain gyda dyluniadau cywrain wedi’u cerfio arnynt. Mae ystyron penodol i bob un o’r dyluniadau hyn, a’u diben yw cyfleu neges i’r sawl sy’n eu derbyn.

Yn draddodiadol, cerfiwyd llwyau caru gan ddynion ifanc, oedd yn eu cyflwyno i’r merched yr oeddent yn eu caru fel arwydd o’u teimladau. Roedd y llwyau pren hefyd yn dynodi eu bod yn grefftus ac yn dda eu dwylo, mewn geiriau eraill, y byddent yn gwneud gŵr da!

Mae gwahanol ystyron i’r gwahanol gerfiadau – mae cloch yn symboleiddio priodas a phen-blwydd priodas, mae croes yn dangos ffydd, calon yn dangos cariad ac ati.

Y Ddraig Goch 

Ni chafodd y faner genedlaethol yr ydym ni’n ei chysylltu â Chymru ei dadrolio tan 1959.

Daeth y ddraig o un o chwedlau’r Brenin Arthur – cafodd Myrddin weledigaeth lle’r oedd draig goch (y Cymry) yn ymladd yn erbyn draig wen (y Sacsoniaid). Yn naturiol, y ddraig goch enillodd, gan alltudio’r ymosodwyr oddi ar ein tir.

Mae lliwiau gwyrdd a gwyn y faner yn gyfeiriad at Dŷ’r Tuduriaid, sef uchelwyr Cymru’r 15fed ganrif, yr aeth eu disgynyddion ymlaen i reoli Lloegr – oedd, roedd gan Harri’r VIII gyndadau Cymreig!

Cennin a Chennin Pedr 

Mae’r cyswllt rhwng Cymru a chennin ychydig yn aneglur, ac nid oes unrhyw un yn gwybod yn union sut y daethant yn symbol cenedlaethol i ni. Yr eglurhad mwyaf cyffredin yw y byddai milwyr Cymreig, cyn dyddiau lifrau milwrol, yn gwisgo cenhinen i wahaniaethu rhyngddynt hwy a’r gelyn ar faes y gad.

Mae tystiolaeth i Cadwaladr, brenin Gwynedd yn y 7fed ganrif, orchymyn ei ddynion i wisgo cenhinen mewn brwydr, ac mae Shakespeare yn cyfeirio at hyn yn ei ddrama, Henry V:

“the Welshmen did good service in a
garden where leeks did grow, wearing leeks in their
Monmouth caps; which, your majesty know, to this
hour is an honourable badge of the service; and I do
believe your majesty takes no scorn to wear the leek
upon Saint Tavy’s day.”

Mae’r stori y tu ôl i sut y daeth Cennin Pedr yn symbol o Gymru hyd yn oed yn fwy rhyfedd. Mae’n bosib i hyn ddigwydd am fod Cenhinen a Chenhinen Bedr yn eiriau tebyg iawn, a bod rhywun ar hyd yr oesoedd wedi drysu rhwng y ddau!

 

Cacennau / Teisennau Cri a Bara Brith 

Mae gan Gymru dreftadaeth gastronomegol falch, ond roedd y bobl yn adnabyddus am fod â thipyn o ddant melys! Nid yw’n syndod felly mai bwydydd melys yw dau o’n hoff ddanteithion cenedlaethol: cacennau cri a bara brith.

Er yr enw, mae cacennau cri yn disgyn rhwng dwy stôl – rhywle rhwng cacen a sgon – ac fe’u coginir yn draddodiadol mewn padell neu ar garreg boeth. Torth ffrwythau â sbeis yw bara brith, a wneir gyda the.

Gwneir y ddau â chynhwysion fyddai gan deuluoedd glofaol tlawd yn eu pantri – ffrwythau sych, te, lard, llefrith a wyau.

Heddiw, mae cacennau cri a bara brith yn ddanteithion perffaith gyda the pnawn ac i’w gweld ar fwydlenni sawl caffi ar hyd a lled Cymru (os ydych chi’n teimlo braidd yn llwglyd, dyma flog am y lleoedd gorau i gael te pnawn [hyperlink to afternoon tea blog]). Yn yr un modd â phastai Cernyw, dyma’r byrbryd llawn calorïau perffaith i löwyr llwglyd, a’r maint perffaith i’w rhoi mewn poced i’w bwyta’n nes ymlaen yn y diwrnod gwaith.

Yr Eisteddfod 

Mae Cymru hefyd yn genedl o artistiaid: barddoniaeth, adrodd straeon, creu cerddoriaeth a pherfformiadau theatr, ymysg doniau eraill. Yn syml iawn, mae’r celfyddydau’n rhan o’n DNA!

Mae rhai o berfformwyr gorau’r byd yn dod o Gymru: Catatonia, Stereophonics, Y Fonesig Shirley Bassey, Manic Street Preachers ac, wrth gwrs, Tom Jones. Heb sôn am actorion blaenllaw Hollywood fel Luke Evans, Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffydd ac Iwan Rheon.

Rydym yn dathlu ein cariad at y celfyddydau yn yr Eisteddfod, sef gŵyl o farddoniaeth, llenyddiaeth a pherfformio Cymraeg. Dim rhyw Ŵyl ffasiwn newydd yw hon chwaith. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn y 12fed ganrif pan gynhaliodd Rhys ap Gruffydd gyfarfod o artistiaid Cymreig yn ei lys yng Ngheredigion.

Mae gennym sawl math o eisteddfod, yn amrywio o’r rheiny ar gyfer pobl ifanc (Eisteddfod yr Urdd Urdd Eistedffod) i’r rheiny sy’n gwahodd pobl o bob rhan o’r byd i gymryd rhan (a gynhelir bob blwyddyn yn Llangollen Llangollen). Ond y mwyaf enwog yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru National Eisteddfod of Wales, a gynhelir bob mis Awst. Mae’r lleoliad yn amrywio rhwng y Gogledd a’r De bob yn ail, a dyma ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth gystadleuol fwyaf Ewrop.

Eleni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar Ynys Môn, felly ynghyd â thaith ar Reilffordd Dyffryn Conwy, mae gennych chi ddau reswm gwych i ymweld â Gogledd Cymru yn 2017!

Delweddau trwy garedigrwydd: Cennin Pedr ym Mhortmeirion a Chacennau Cri, © Hawlfraint y Goron (2011) Croeso Cymru, cedwir pob hawl.

Comments are closed.