Llanrwst i Drefriw

Tref farchnad hanesyddol yw Llanrwst tua phedair milltir o Fetws-y-coed. Gydag Eryri ychydig filltiroedd i ffwrdd, nid yw Llanrwst yn ddewis amlwg fel rhywle i fynd am dro. Yn y dref mae adeiladau hanesyddol a busnesau traddodiadol a’r Ystafell De/Siop Goffi Tu Hwnt i’r Bont – sydd i’w gweld mewn nifer o ffotograffau – ychydig funudau i ffwrdd o Orsaf Gogledd Llanrwst. Adeiladwyd Tu Hwnt i’r Bont yn 1480 ac mae wedi bod yn gweini te Cymreig am dros 50 mlynedd. Mae’n hawdd ei adnabod oherwydd yr eiddew sy’n gorchuddio’r adeilad ac mae ffotograffwyr yn hoff iawn o dynnu ei lun, yn enwedig yn yr Hydref. Gwaetha’r modd, nid oedd yn bosibl mynd i mewn heddiw gan ei fod wedi cau dros y gaeaf. Mae’n ailagor ym mis Mawrth.

Tu Hwnt ir Bont

Y tu allan i Lanrwst ar ffin ag Eryri mae tref fach Trefriw, sy’n fwyaf adnabyddus am ei melin wlân a’r ffynhonnau iachusol. Gallwch gerdded y daith linellol o Drefriw i Lanrwst neu ei cherdded fel cylchdaith. Mae’r daith linell ar hyd ffyrdd tarmac yn bennaf sy’n hygyrch ac addas i gadeiriau olwyn a phramiau.

 

Mae’r gylchdaith yn mynd yn ôl o Drefriw ar draws y cob, trwy gaeau ac ardal sy’n tueddu i fynd dan ddŵr. Er bod y llwybr ar draws y cob yn hawdd ei ddilyn mae’n anwastad iawn ac yn gul mewn mannau.

 

Taith Linellol

 

Cymerodd ddim ond 7 munud i gyrraedd Gorsaf Gogledd Llanrwst o Fetws-y-coed ar Reilffordd Dyffryn Conwy. Wrth adael yr orsaf ac anelu am y maes parcio dilynais y ffordd sy’n mynd i’r chwith i’r orsaf fysys. Rownd y gornel byddwch yn gweld Pont Gower.

Mae’r bont grog o’r 19eg ganrif yn croesi’r Afon Conwy. Ewch dros y bont ac ychydig wedyn fe welwch arwydd gyda gwybodaeth am lwybrau Trefriw. Mae cyfanswm o wyth llwybr gydag arwyddion (sydd wedi’u rhifo) ac mae pob un yn cychwyn yn Nhrefriw. Maen nhw’n amrywio o ran pellter, tir a pha mor anodd ydyn nhw. Chwiliwch am arwyddion tebyg ar hyd y llwybr sy’n cynnwys ffeithiau diddorol a gwybodaeth am yr ardal.

 

Mae’r llwybr tarmac yn mynd yn syth i Drefriw. Mae’n hawdd ei ddilyn felly gallwch fwynhau’r daith a’r golygfeydd ar y ffordd. Tua 300 llath ar ôl y bont byddwch yn gallu gweld pentref Trefriw ar ochr y bryn yn y pellter.

 

Os nad ydych eisiau dilyn y ffordd darmac yr holl ffordd chwiliwch am yr arwydd llwybr troed ar y dde, bydd hwn yn mynd â chi ar hyd lôn sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd.

Mae’r naill lwybr a’r llall yn mynd â chi i Drefriw, yn union gyferbyn â Melin Wlân Trefriw. Mae’r melinau yma wedi bod yn cynhyrchu tapestri Cymreig traddodiadol o wlân ers 1859. Mae’n bendant yn werth dod yma ac mae’n lle delfrydol i gael coffi a chacen.

Os ydych yn gwneud y daith linellol gallwch ddychwelyd ar hyd yr un llwybr yn ôl i Lanrwst. Cyfanswm y pellter yw tua 30 milltir felly dylech allu cerdded wrth eich pwysau a’i chwblhau mewn llai na 2 awr (yn cynnwys hanner awr yn y Felin Wlân).

 

Cylchdaith

 

I barhau ar y gylchdaith anelwch tuag at y gofeb gyferbyn â’r Felin Wlân. Mae’r toiledau ger y gofeb ac ar ochr yr adeilad chwiliwch am arwydd ‘Llwybrau Trefriw/Trefriw Trails’. Yma mae’r llwybr yn mynd â chi ar hyd lôn gul y tu ôl i’r toiledau ac yna ar draws y caeau.

 

Mae’r llwybr yn mynd â chi ar draws y cob. Mae’r ardal yma’n orlifdir ac adeiladwyd y cob fel amddiffynfa i ddiogelu’r pentref pan fo’r afon Conwy’n gorlifo.

 

Mae’r llwybr ar hyd y cob yn hawdd iawn ei ddilyn. Byddwch yn mynd drwy ambell giât a dros ambell gamfa ac os byddwch yn mynd yn y gaeaf (fel y gwnes i) mae’n gallu bod yn fwdlyd mewn mannau!

 

Mae’r llwybr yn dilyn yr afon Conwy drwy’r caeau a heibio i’r defaid. Byddwch yn mynd dros yn gamfa olaf ac yn ôl at Bont Gower ac yna’n troi i’r chwith dros y bont ac yn ôl i’r orsaf. Mae’n bosibl gwneud y gylchdaith y ffordd groes hefyd, ewch i’r dde dros yr un gamfa ar ôl y bont.

 

Er mai dim ond ychydig pellach yw’r gylchdaith na’r daith linellol, gallai gymryd mwy o amser oherwydd y tir dan draed, felly neilltuwch amser ychwanegol i gyrraedd yr orsaf i ddal y trên.

Trosolwg

 

Mwynheais y daith yma’n fawr. Er bod yr A470 yn rhedeg ar hyd ochr y caeau roedd yna deimlad eithaf heddychlon yn y dyffryn. Mae’n wastad ac yn hawdd ac yn daith wych os nad ydych eisiau taith rhy anghysbell. Mae rhywbeth i bawb –  wrth i chi nesáu at Drefriw mae lle chwarae i’r plant neu gall y rhai hŷn fynd i’r felin wlân.

 

Hygyrchedd

 

Mae’r daith linellol yn hygyrch i bawb gyda llwybrau gwastad llydan, ar darmac yn bennaf.

 

Esgidiau

Gwisgais drenyrs ar y daith linellol, roedd hynny’n addas er bod ambell bwll mewn mannau. Yn bendant buaswn yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau cerdded neu rywbeth sy’n dal dŵr i fynd ar y gylchdaith, yn enwedig yn ystod y misoedd ‘gwlypach’ gan ei bod yn fwdlyd iawn.

 

Cyrraedd yno

 

Amserais y daith yma i gyd-fynd ag amseroedd trefnau Dyffryn Conwy (yn ystod yr wythnos):

 

Gadael Betws-y-coed am 1202 cyrraedd Gorsaf Gogledd Llanrwst am 1209

Neu, gadael Cyffordd Llandudno am 1032 – cyrraedd Gorsaf Gogledd Llanrwst am 1054

 

Gadael Gorsaf Gogledd Llanrwst am 1653 cyrraedd Betws-y-coed am 1701

Neu, gadael Gorsaf Gogledd Llanrwst am1531 cyrraedd Cyffordd Llandudno am 1605

 

 

Teithiau hirach

 

Os ydych yn dewis taith hirach yna gallwch fynd ar y gylchdaith o Drefriw sy’n mynd â chi o amgylch Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant. Mae’r daith yma tua 8 milltir ac yn wirioneddol hardd.

 

 

 

Tracey Ann Breese

Mae Tracey Ann Breese yn rhedeg Breese Adventures gyda’i gŵr, Stiwart. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn Eryri ers pedair blynedd bellach yn darparu teithiau cerdded tywysedig, anturiaethau wedi eu teilwra a heriau elusennol.

 

Mae Tracey wrth ei bodd yn ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan i’r awyr agored a mynd ar anturiaethau, gan eu hannog i archwilio’r amgylchedd naturiol a dysgu amdanyn nhw eu hunain drwy fynd ar antur neu ymgymryd â her.

 

 

 

Comments are closed.