Gorsaf Gogledd Llanrwst yn cael gwedd-newidiad gan yr arlunydd lleol, Myfanwy Jones

Cafodd Myfanwy Jones, sy’n cael ei galw’n Fan, ei geni yn Llanrwst ac fe ddychwelodd i’w thref enedigol yn ddiweddar ar ôl 40 mlynedd yn byw yn Runcorn.

Bu i Chris a Janet, dau o Fabwysiadwyr Gorsaf Gogledd Llanrwst, ddod at Fan yn ystod eu dosbarth celf wythnosol. Mae Fan yn arlunydd brwd sy’n hoff o baentio. Mae’r lluniau yn yr orsaf wedi’u hysbrydoli gan ei chariad at natur, darllen a cherdded o amgylch llynnoedd Crafnant a Geirionnydd.

Mae’r lloches wedi’i thrawsnewid gyda golygfa o flodau gwylltion sy’n cynnwys cennin Pedr, tiwlipau, bysedd cŵn a phabïau gyda gloÿnnod byw, basgedi hongian a gwenyn yn eu plith.

Fe gymerodd bythefnos i orffen y prosiect, lle bu’n darlunio â llaw cyn paentio â phaent acrylig a rhoi farnais drosto i’w warchod rhag y tywydd.

Mae’r lluniau i’w gweld yn yr orsaf.