Taith Gylchol y Gogarth

Ar fore heulog hyfryd o Dachwedd fe benderfynais anelu am Landudno er mwyn archwilio’r Gogarth eiconig.

 

Mae ‘mynydd bychan Llandudno’ yn ymestyn i Fôr Iwerddon gan godi i dros 200 o fetrau ar ei bwynt uchaf. Mae’n cynnig teithiau cerdded hygyrch a rhai mwy heriol hyd at 8 milltir o hyd (neu ymhellach yn dibynnu ar faint rydych yn crwydro oddi ar y ffordd!) Mae yna ddulliau haws i gyrraedd y copa, gan gynnwys car cebl, neu’r ‘unig Dramffordd stryd i gael ei chodi gan gebl ym Mhrydain’ (Visit Llandudno). Mae yna ‘drên ar y tir’ hyd yn oed a fydd yn eich cludo o amgylch Marine Drive. Ond roedd heddiw yn ddiwrnod perffaith i gerdded, ac felly dyma fy antur..

 

Wedi gadael gorsaf Llandudno fe es yn syth heibio’r cerflun o Alys, (un o gerfluniau Llwybr Alys yng Ngwlad Hud, byddwch yn gweld un arall ymhellach ar hyd y llwybr) ac allan i gyfeiriad prom gwych Llandudno a’r pier Fictoraidd. Fe es i gyfeiriad y pier ac unwaith yr oeddwn wedi mynd heibio mynediad y pier fe es i’r dde ac i fyny’r bryn.

 

Mae’r llwybr yn rhannu yma a gallwch fynd yn syth ymlaen neu fynd ar hyd y rhan sydd ychydig yn fwy serth tua’r chwith a fydd yn mynd â chi i’r Fach, sydd werth ei harchwilio yn sicr os oes gennych amser ac mae’n lle gwych i ymlacio ar ddiwrnod heulog gyda golygfeydd ar draws y bae.

Pa bynnag ffordd bydd y ddau lwybr yn dod â chi at y tolldy lle gallwch fynd drwy fwa a dilyn y llwybr o amgylch Marine Drive.

 

Ar ôl y tolldy peidiwch ag anghofio edrych i’r dde i lawr tuag at y pier ac ar draws y bae, yr holl ffordd i gyfeiriad Trwyn y Fuwch. Ar y chwith fe welwch rai clogwyni poblogaidd o ran dringo (a hyd yn oed rhai dringwyr).

 

Unwaith y byddwch wedi mynd drwy giât y doll mae yna lwybr hawdd iawn i’w ddilyn. Mae Marine Drive yn gwyro ac yn dringo’n raddol ar hyd ymyl y Gogarth. Fe all fod fymryn yn serth mewn mannau ond mae digon o feinciau er mwyn i chi allu aros a mwynhau’r golygfeydd tuag at y môr am gyfnod. Ffordd doll yw Marine Drive (ni chodir tâl ar gerddwyr) ond prin iawn oedd y ceir heddiw.

 

Ar ddiwrnod braf gydag awyr las a’r môr yn llonydd fe allwch wir fod yn unrhyw le yn y byd. Fe arhosais am ychydig i fwynhau’r golygfeydd draw am Ynys Môn ac i ymgolli yn y cyfan tra nad oedd neb arall o gwmpas. Gwrandewais ar y môr a mwynhau’r unigedd, ar wahân i ambell afr fynydd Kashmiri! Does dim llawer o lefydd fel hyn, sydd mor hygyrch i’r rhan fwyaf o bobl ond lle gallwch wir brofi’r heddwch y gallwch ei brofi yma.

Roeddwn wedi bod yn ddigon ffodus i gael cip ar forlo ac un bach ar ymweliad cynharach. Mae adroddiadau wedi bod hefyd fod dolffiniaid trwynfawr i’w gweld o ben pellaf y Gogarth. Bydd rhaid i mi ddod yn ôl rhyw ddiwrnod arall i weld y rhain!

 

O ddilyn y llwybr mae’r ffordd yn rhannu, i barhau ar Marine Drive cadwch i’r dde a dilynwch yr arwyddion ar gyfer y caffi ‘Rest and be Thankful’. Fe alwais yma am frecwast ac roeddent yn gyfeillgar iawn. Yn anffodus dim ond arian y maent yn ei dderbyn (a doedd gen i ddim arian!) ac felly ni allwn aros am fwyd, ond mae’n lle hyfryd i aros am rôl frecwast neu banini. Nid oedd hyn yn ormod o argyfwng gan mod i wedi cynllunio ymlaen llaw ac wedi dod â brechdanau ac ychydig ymhellach ymlaen fe ddes o hyd i ardal bicnic fendigedig. Bydd rhaid i chi fynd i’r chwith ychydig oddi ar y llwybr i ddod o hyd iddo ond mae arwyddion da yma.

 

Gallwch barhau ar hyd y llwybr o’r ardal bicnic i fyny i gopa’r Gogarth ac i gaffi’r copa (mae’r cacennau’n enfawr!) ac yna dilyn y dramffordd yn ôl i lawr ond mae hwn yn serth IAWN!

 

Roeddwn yn awyddus i gwblhau’r gylchdaith hon o’r Gogarth ac felly fe es yn ôl ar Marine Drive, gan fwynhau’r golygfeydd o Eryri ac yn arbennig mynyddoedd y Carneddau ar draws yr aber.

 

Wrth i mi gerdded i lawr roedd yr olygfa yn fy nghludo draw i harbwr Conwy a thraeth Penmorfa. Mae hwn yn lle prydferth iawn, mae bob amser yn dawel braf ar y traeth ac ni allwn beidio â phadlo yn y môr (er ei fod braidd yn oer heddiw).

 

Yn syth ar ôl y tolldy llwyd mawr sydd wedi ei drawsnewid ar y chwith fe es ar y llwybr drwy’r giât a dilyn arwyddion y llwybr i ochr ddeheuol y Gogarth. Mae yna ran fach sy’n serth yma a byddwch yn barod am dipyn o risiau*. Cefais fy nghyfarch yma gan grŵp arall o eifr mynydd Kashmiri oedd i weld â’r un faint o ddiddordeb ynof i.

 

Mae llwybr igam ogam ar y chwith sydd eto’n eich cludo i fyny i gaffi copa’r Gogarth, neu fe allwch fynd ymlaen fel y gwnes i, drwy’r giât ac i lawr i Erddi Haulfre.

 

Cynlluniwyd gerddi Haulfre yn y 1870au gan Henry Davis Pochin, sylfaenydd Gerddi Bodnant. Mae digon o leoedd yma i eistedd a mwynhau’r gerddi ac er bod y rhan fwyaf o’r planhigion a’r blodau wedi marw am y gaeaf nid oedd yn anodd dychmygu pa mor drawiadol yw’r lle hwn yn y gwanwyn a’r haf pan mae popeth wedi blodeuo.

Heibio’r gerddi mae Ystafelloedd Te Haulfre sydd (er ar gau heddiw) yn edrych fel lle bendigedig i aros am de. Yma hefyd mae cerflun arall sy’n rhan o Lwybr Alys sef Tweedledum a Tweedledee. (Hefyd mae yma doiledau cyhoeddus!)

 

Unwaith yr oeddwn wedi mynd heibio’r ystafelloedd te roedd yn hawdd gweld Gwesty St George a Thraeth y Gogledd yn y pellter. Fe es i’w cyfeiriad er mwyn dod i lawr yn raddol a dod yn ôl i lle roeddwn wedi cychwyn.

 

Roeddwn wedi cyrraedd yn ôl mewn ychydig o dan 4 awr ac roedd hynny’n rhoi digon o amser i mi i grwydro pier hiraf Cymru a hefyd amser i ymlacio cyn mynd yn ôl i’r orsaf.

 

Trosolwg

Mae hon yn daith gerdded wych, er yn llafurus mewn mannau. Mae’n addas i’r rhan fwyaf o bobl gyda lefel dda o ffitrwydd. Mae opsiynau di ben draw i’w harchwilio yn dibynnu ar amser a gallu. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau cymaint ag y gwnes i.

 

Hygyrchedd

Mae rhai rhannau yn fwy heriol na’i gilydd. Os ydych yn dilyn Marine Drive yr holl ffordd ac yna’n troi ar hyd Gloddaeth Avenue mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau yr holl ffordd.

 

*I osgoi’r grisiau ewch ymlaen am ychydig i’r maes chwarae ac yna troi i’r chwith a dilyn Gloddaeth Avenue. Bydd hyn yn mynd â chi’r holl ffordd yn ôl i ganol y dref, neu ychydig ymhellach i bromenâd Traeth y Gogledd. Trowch i’r chwith yn Chapel Street er mwyn mynd yn ôl i’r orsaf.

 

Esgidiau

Tarmac yw’r llwybr yr holl ffordd felly rwyf wedi dysgu o brofiad y gall treinyrs fod yn fwy caredig i’r traed nac esgidiau cerdded. Fe wisgais dreinyrs rhedeg a hyd yn oed ar ddiwrnod gweddol wlyb roedd y llwybrau’n eithaf sych. Ond, os ydych yn cymryd un o’r llwybrau i fyny i’r copa mae rhai o’r llwybrau yn welltog ac fe fyddant yn wlypach (ac o bosibl yn fwy mwdlyd).

 

Cyrraedd yma:

Mi amserais y daith i gyd-fynd â’r trenau canlynol (yn ystod yr wythnos):

 

Gadael Betws-y-Coed am 0902 a chyrraedd Llandudno am 09.56 – gallwch ddal yr un trên o Gyffordd Llandudno am 0948

 

Gadael Llandudno am 1620 a chyrraedd Betws-y-Coed am 1701

 

Y pellter a gerddwyd oedd 8 milltir a gymrodd tua 4 awr gan gynnwys sawl egwyl, oedd yn gadael digon o amser i archwilio rhai o’r llwybrau eraill neu alluogi crwydro ar hyd ffyrdd eraill i’r copa.

 

Tracey Ann Breese

Mae Tracey Ann Breese yn rhedeg Breese Adventures gyda’i gŵr, Stiwart. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn Eryri ers pedair blynedd bellach yn darparu teithiau cerdded tywysedig, anturiaethau wedi eu teilwra a heriau elusennol.

 

Mae Tracey wrth ei bodd yn ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan i’r awyr agored a mynd ar anturiaethau, gan eu hannog i archwilio’r amgylchedd naturiol a dysgu amdanyn nhw eu hunain drwy fynd ar antur neu ymgymryd â her.

 

 

 

 

 

 

Comments are closed.