Difrod Storm i Reilffordd Dyffryn Conwy

Bydd Rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau tan ganol Tachwedd oherwydd difrod storm.

 

Photo Credit; Network Rail 6.11.17

 

 

 

Rhaid gwneud atgyweiriadau ar y lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno.

Dywedodd Network Rail fod y gwaith atgyweirio yn mynd rhagddo ar y trac a ddifrodwyd a bydd ar gau tan ddydd Llun 13 Tachwedd.

Mae gwasanaeth bws yn weithredol yn lle’r gwasanaeth trên.

Mae mwy o ddiweddariadau teithio ar gael ar www.arrivatrainswales.co.uk

Comments are closed.