Blog Newydd; Ras Gyfnewid Baton y Frenhines, Gemau’r Gymanwlad

Ar ddydd Gwener, 8 Medi, mae Gogledd Cymru’n croesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines, Gemau’r Gymanwlad, gyda thîm yn galw heibio eich ardal chi. Dyma fydd Diwrnod Pedwar taith o amgylch Cymru a ddechreuodd o swyddfeydd Gemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, gan werthfawrogi sawl tref ac ardal o bwys ar draws Cymru ar hyd y ffordd. Mae uchafbwyntiau’n cynnwys Ynys y Barri, Y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, tref farchnad Y Trallwng ar y Gororau (ffin hanesyddol gyda Lloegr) a Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.

Dolwyddelan Castle

Ddydd Gwener, bydd y tîm yn pasio sawl lle yn Eryri a’r cyffiniau. Sef:

  • Zip World, Blaenau Ffestiniog
  • Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
  • Dolgellau
  • Portmeirion
  • Porthmadog
  • Pwllheli

Mae’r llwybr wedi cael ei gynllunio’n ofalus i arddangos y gorau o Gymru – gorffennol a phresennol. Gyda 2017 yn ‘Flwyddyn y Chwedlau’ i Gymru – blwyddyn i ddathlu cyfoeth ein treftadaeth a hanes diwylliannol – bu pwyslais penodol ar basio’r baton drwy ardaloedd gyda chysylltiadau chwedlonol.

Ar Ddiwrnod Pedwar er enghraifft bydd y tîm yn pasio drwy’r Ysgwrn, sef cartref y bardd rhyfel a’r trysor cenedlaethol, Hedd Wyn, ond bydd ymweliadau hefyd i Geudyllau Llechi Zip World ym Mlaenau Ffestiniog, cartref ‘Titan’ y profiad gwifren sip gyntaf i bedwar o bobl yn Ewrop. Arwyr hen a newydd gyda’i gilydd!

Efallai nad ydych yn ymwybodol, ond mae Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn cael lle arbennig yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Cynhaliwyd Ras Gyfnewid gyntaf y Frenhines yng Nghaerdydd, bron i 60 mlynedd yn ôl. Roedd hon yn ras, nid i’w hennill, ond i ddangos heddwch a harmoni drwy gymryd rhan mewn chwaraeon.

Cafodd y baton gwreiddiol ei ddylunio a’i greu yng Nghymru – ffon enamel ag ymylon arian wedi’i addurno gyda symbolau cenedlaethol Cymru: Y Ddraig Goch, y genhinen bedr a chennin.

Mae’r baton yn cynnwys neges arbennig gan Ei Mawrhydi’r Frenhines, i’w darllen yn seremoni agoriadol y Gemau, sydd i’w cynnal ar Draeth Aur, Awstralia yn 2018.

Ar fore Gwener, bydd Tîm Ras Gyfnewid Baton Y Frenhines – tîm o arwyr chwaraeon Cymru, llysgenhadon diwylliannol, enwogion ac unigolion arbennig o’r gymuned leol – yn cychwyn o Gastell Dolwyddelan, caer oedd yn fan geni honedig i Llywelyn Fawr.

Nid nepell o bentref a gorsaf drên Dolwyddelan, mae’r castell yn sefyll ar frig caregog sy’n edrych dros Dyffryn Lledr, oedd unwaith yn borth i fynyddoedd Eryri. Bydd y tîm yn pasio’r castell wrth iddynt ymlwybro tuag at Blaenau Ffestiniog, a elwir hefyd ‘y dref oedd yn toi’r byd’; roedd yn ganolbwynt i ddiwydiant cloddio llechi yng Ngogledd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif cynnar.

Ar ôl gwerthfawrogi golygfeydd Blaenau, bydd y baton yn parhau ar ei daith drwy galon Eryri, gan basio cartref Hedd Wyn, ac yna ymlaen i Ddolgellau, ac o’r fan yna i dref Eidalaidd Portmeirion – gyda seibiant digon hir i ymuno â gorymdaith yng Ngŵyl Rhif 6!

Yn ystod y prynhawn, bydd y tîm ras gyfnewid yn neidio ar y Rheilffordd Eryri ym Minffordd ac yn gwneud y daith i Orsaf Harbwr Porthmadog ar drên stêm rheilffordd gul, hanesyddol.

O Borthmadog bydd Tîm Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn gwneud cymal olaf y daith flinderus hon – un sy’n gweld y baton yn ymweld â phob gwlad y Gymanwlad – gan basio bedd Gelert, y ci ffyddlon ym Meddgelert, castell arfordirol prydferth Cricieth, i ben y daith ar y traeth ym Mhwllheli.

Dywedodd yr Athro Nicola Phillips, Chef de Mission tîm Cymru ar gyfer y Traeth Aur, 2018: “Rydym angen i bawb ar draws Cymru gefnogi ein hathletwyr nawr, wrth iddynt barhau ar eu taith i’r Traeth Aur ac yn ystod y Gemau eu hunain, ac rydym yn gobeithio bod taith Baton Ras Gyfnewid y Frenhines drwy Gymru’n rhyw fath o wahoddiad i’r Genedl gyfan gefnogi’r athletwyr a chymryd rhan, cyffroi ac ysbrydoli cyn Gemau’r Gymanwlad Traeth Aur, 2018.

 

Comments are closed.