Gerddi Cudd Rheilffordd Dyffryn Conwy

O erddi cudd y dyffryn i ystadau gwledig mawr, gall ymwelwyr fentro i fyd o blanhigion lliwgar sydd wedi datblygu dros ganrifoedd yma yng Ngogledd Cymru.

Yn y blog hwn rydym yn rhannu dwy ardd fendigedig, sydd o fewn pellter cyfleus i Reilffordd Dyffryn Conwy.  Rydym hefyd wedi cynnwys llwybrau cerdded gwledig dewisol i gyd-fynd â hwy, felly p’un a ydych eisiau treulio diwrnod cyfan yn crwydro neu pe byddai’n well gennych dreulio ychydig oriau yn edmygu’r gerddi hanesyddol hardd – gallwch ddewis a dethol o’r ddau ddewis hyn.

1. Gardd gudd Dyffryn Conwy

Mae gan y daith gerdded hon, na ŵyr fawr neb amdani (sy’n weddol rwydd) olygfeydd aruthrol ar draws y dyffryn, yr aber a mynyddoedd y Carneddau, ac sy’n gorffen yn agos at Abaty Maenan.  Mae’n mynd heibio i lyn cudd ac mae gardd gudd hardd hefyd i’w darganfod – er y gallai fod angen i chi drefnu ymweliad ymlaen llaw.

Ewch ar Reilffordd Dyffryn Conwy a gadael y trên yn Nhal-y-cafn.  Pan fyddwch yn barod i ddechrau ar y daith gerdded, ewch heibio i dafarn y Tal-y-cafn <http://www.talycafn.com/> a chroesi’r brif ffordd.  Cerddwch i fyny’r lôn a chymryd yr ail droad i’r dde (gydag arwyddion Llyn Syberi).

Arhoswch am ennyd a mwynhau golygfeydd gwych y tirlun ac Afon Conwy wrth iddi droelli i lawr y dyffryn tua’r môr.

Parhewch ar hyd y lôn a byddwch yn cyrraedd Llyn Syberi yn fuan ar yr ochr dde.  Mae’n llyn bychan yn y coed ac mae’n wych ar gyfer gwylio adar.  Mae adar ysglyfaethus a nifer o wahanol fathau o adar dŵr i’w gweld yma.

Ewch ymlaen a byddwch yn croesi rhai llinellau pŵer cyn i’r lôn ostwng yn serth a chroesi nant.

Cadwch olwg am dŷ gwyn a dilyn y llwybr at y tŷ sy’n mynd heibio rhai adeiladau ac i ardal parcio ceir.

Y tu hwnt i’r ardal hon mae llwybr coetir (cadwch i’r dde) sy’n eich arwain yn y pen draw at lwyfan creigiog cul yn uchel uwchben Dyffryn Conwy.  Y graig hon yw cadair y cawr Cymreig chwedlonol, Ifan Goch a fyddai, yn ôl y chwedl, yn eistedd yma ac yn trochi ei draed yn yr afon islaw!

Arhoswch yma am ychydig a mwynhau’r golygfeydd aruthrol i lawr yr afon ac ar draws y dyffryn at gopaon y Carneddau.  Yna, pan fyddwch yn barod, dilynwch yr un llwybr yn ôl drwy’r coed, trowch i’r dde, yna i’r dde eto pan welwch arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae’r llwybr hwn yn mynd am i lawr i’r chwith a heibio hen gapel ac yna ar hyd lonydd gwledig gan orffen yng Ngwesty Maenan Abbey – y lle delfrydol i gael diod adfywiol ar ôl eich taith gerdded.

Nid dyma yw diwedd y daith….beth am groesi’r ffordd ac archwilio’r gerddi cudd yn Maenan Hall <https://www.ngs.org.uk/?bf-garden=8174>.

Cafodd Maenan Hall ei brynu ym 1945 gan yr Arglwydd Aberconwy, perchennog Bodnant, ac ef oedd yn gyfrifol am greu llawer o’r gerddi yno.  Wedi’i leoli ar lethrau Dyffryn Conwy, mae’r gerddi hardd hyn wedi’u lleoli ymysg coed pren caled, yn debyg i’r rhai ym Modnant.

Mae yna lawntydd ysgubol, pyllau addurniadol yn ogystal â glyn heddychlon yn y coed sy’n cynnwys coed magnolia, rhododendron, camelia, pieri, ceirios a hydrangea, ymhlith eraill.

Mae’r gerddi hyn yn rhai preifat, ond mae’r perchennog presennol, Christopher McLaren a’i wraig Janey yn eu hagor i’r cyhoedd – fel arfer am rai penwythnosau ym mis Mai a mis Awst.  Maent hefyd yn croesawu ymweliadau grŵp, drwy drefniant ymlaen llaw, ac mae eu manylion cyswllt ar gael yma.

Ar ôl i chi fwynhau diwrnod yn archwilio Dyffryn Conwy, gallwch ddal y bws X1 <https://bustimes.org.uk/services/GYAX001> naill ai i Dal-y-cafn neu Lanrwst ac yna dychwelyd i’ch man cychwyn gwreiddiol ar y trên.

Fel arall, gallwch gymryd y trên o Ddolgarrog gerllaw, sydd tua 15 munud ar droed o Maenan Hall (dylech fod yn ymwybodol bod hyn ar hyd prif ffordd brysur iawn yr A470).

2. Gardd ogoneddus Dyffryn Ffestiniog

Gallwch ymestyn eich taith ymhellach a darganfod y gerddi hardd ym Mhlas Tan y Bwlch.

Ar ôl i chi gyrraedd pen draw rheilffordd Dyffryn Conwy, gallwch gyfnewid diesel am stêm a theithio ar Reilffordd Ffestiniog <http://www.festrail.co.uk/> i Dan y Bwlch.

O’r fan hon dilynwch lwybr i lawr drwy’r coed, croesi’r ffordd a mwynhau taith gerdded fendigedig, tua 30-40 munud, ar lannau’r llyn drwy Goed Hafod y Llyn i Blas Tan y Bwlch (rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynd ar y daith hon).

Fel arall, os nad ydych eisiau cerdded mae’n 15 munud ar y bws gwasanaeth 1B o dafarn yr Oakley Arms (mae yna grochendy diddorol – Crochendy Twrog, dros y ffordd ac mae’n werth mynd draw yno).

Mae Plas Tan y Bwlch wedi’i leoli ar fryn uwchben Dyffryn Maentwrog, gyda golygfeydd trawiadol yn edrych allan dros Afon Dwyryd a chyn belled â Bae Ceredigion.

Mae ei 13 erw yn llawn lliwiau o’r coed rhododendron ac asalea yn y gwanwyn, y borderi heulog yn wynebu’r de yn yr haf a dail coch ac aur bendigedig y coed collddail yn yr hydref.

Gallwch grwydro drwy’r coedwigoedd cysgodol sy’n llawn coed derw, ffawydd, pinwydd a llwyni anghyffredin o dramor.

Fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), mae’r gerddi (a’r coetir amgylchynol) yn gartref i rywogaethau adar, pryfed ac anifeiliaid sy’n cael eu diogelu.

Hyd yn oed gyda theimlad mwy anghysbell, mae terasau ffurfiol, lawntydd a gerddi dŵr yn ychwanegu urddas sy’n adlewyrchu hanes cyfoethog yr ystâd.

Mae’n bosibl mai Ystafell De Dwyryd sydd ag un o’r golygfeydd mwyaf aruthrol yn y DU.  Eisteddwch yn yr heulwen ar y teras a syllu allan dros y dyffryn islaw gyda chwpaned o de yn eich llaw.  Mae hyn yn rhoi rhyw syniad i chi o ffordd o fyw y teulu Oakely cyfoethog, ar ôl gwneud eu ffortiwn yn y diwydiant llechi.

Os hoffech ddysgu mwy am yr ardal, neu efallai eich bod wedi’ch ysbrydoli gan yr amgylchedd, mae’n werth gwybod bod Plas Tan y Bwlch yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n amrywio o gadwraeth bywyd gwyllt i ffotograffiaeth.

 Cerdded neu ymlacio, chi sy’n dewis

Rydym yn gobeithio y bydd y ddwy daith gerdded hyn gyda’u gerddi cudd yn ysgogi eich awydd i archwilio Gogledd Cymru.  Gallwch fwynhau’r teithiau cerdded yn unig, neu’r gerddi yn unig…..neu dreulio’r diwrnod cyfan yng nghefn gwlad a gwneud y ddau – mae cymaint i’w ddarganfod yn y ddau leoliad!

Mewn blog yn y dyfodol byddwn yn trafod gerddi cudd eraill, gan gynnwys Castell Gwydir, Drysle Conwy a llawer mwy.

Maent yn ddelfrydol i deuluoedd eu mwynhau yn ystod gwyliau’r haf ac maent yn hygyrch iawn o brif reilffordd Dyffryn Conwy, felly dychwelwch yn fuan a’n dilyn ar Facebook (hyperlink) neu Twitter (hyperlink) i gael gwybodaeth reolaidd.

Delweddau trwy garedigrwydd: Plas Tan y Bwlch, © Hawlfraint Arthur C Harris ac wedi’u trwyddedu i’w hailddefnyddio o dan y Drwydded Creative Commons  hon. Wild garden, Tom Turner, 2006, drwy wikipedia

Comments are closed.