5 Castell i’w Harchwilio yn Nyffryn Conwy

 

Mae Cymru’n enwog am ei chestyll ac mae digon ohonynt yng Ngogledd Cymru. Yn llawn diwylliant a hanes, maent yn berffaith ar gyfer eu harchwilio eich hun neu gyda theulu a ffrindiau.

Mae cestyll ein hardal ymysg y cestyll gorau eu cyflwr yn Ewrop, ac maen nhw, yn ogystal â’r golygfeydd arbennig o’u hamgylch yn golygu diwrnod perffaith allan ar Reilffordd Dyffryn Conwy.

Mae’r rhan fwyaf o gestyll y mae pobl yn gwybod amdanynt yn ffurfio rhan o ‘Gylch Haearn’ enwog Edward I. Y rhain yw’r cestyll anferth sy’n amddiffyn arfordir Gogledd Cymru, o Gonwy i Harlech. Ar un adeg, y llinyn bygythiol ac arswydus hwn o gestyll oedd un o brosiectau adeiladu canoloesol mwyaf Ewrop.

Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod cestyll yr un mor drawiadol ar hyd lein Dyffryn Conwy, yn barod i’w harchwilio. Mae gan bob un ei stori ddiddorol ei hun i’w hadrodd, ac fe wnaethant chwarae rôl bwysig yn Hanes Cymru.

  1. Castell Deganwy

Ychydig mwy nag ychydig ffosydd a phentyrrau o rwbel a gwaith cerrig yw Castell Deganwy erbyn heddiw, ond mae ganddo hanes sy’n ymestyn fwy na 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

O’r ddwy graig – o’r enw’r Faerdre – lle byddai’r castell wedi ei leoli, mae golygfeydd sydd ymysg y gorau yng Ngogledd Cymru. Ar ddiwrnod clir gallwch weld am filltiroedd; tystiolaeth o bwysigrwydd strategol y safle fel amddiffynfa.

Mae’n debyg i’r Cymry fyw ar y safle o oddeutu’r 2il ganrif ond adeiladwyd y castell carreg cyntaf gan yr arglwydd Normanaidd, Robert o’r Rhuddlan, yn 1080. Cafodd hwn ei ddinistrio gan y Cymry a ail gymerodd y safle tua diwedd y 12fed ganrif.

Adeiladwyd caer newydd gan Llywelyn Fawr yn 1213 ond does dim llawer o’r adeilad hwnnw yn parhau ‘chwaith. Wedi ei farwolaeth yn 1240, penderfynodd ei feibion ddinistrio’r castell yn hytrach na’i roi i’r Brenin John. Pan gyrhaeddodd y Saeson, roedd yn rhaid iddynt gysgu mewn pebyll gan fod y castell wedi ei ddinistrio mor llwyddiannus!

Creiriau yw’r adfeilion sydd i’w gweld heddiw o feddiannaeth y castell yn ystod teyrnasiad Harri III. Cafodd y safle ei adael yn llwyr pan ddewisodd Edward I, mab Harri, dref Conwy fel safle ei gartref newydd, oherwydd ei leoliad pwysig ar lan yr afon . Mae chwedl leol yn dweud fod cerrig Castell Deganwy wedi eu defnyddio i adeiladu Castell Conwy a muriau’r dref.

Rydym yn rhannu taith gerdded hyfryd i’r castell ar ein blog Sbotolau ar yr Orsaf ar gyfer Deganwy.

  1. Castell Conwy

Mae’r amddiffynfa eiconig hon yn un o Gylch Haearn Edward I . Mae’n hawdd cyrraedd y castell o orsaf Cyffordd Llandudno, taith braf o 20 munud ar droed ar draws y bont i dref Conwy. Mae mor enwog ac mor hawdd ei gyrraedd, roedd yn rhaid i ni ei gynnwys.

Fel rydych yn cyrraedd Conwy dros bont y ffordd, mae’r castell yn tra-arglwyddiaethu dros y dref, yn llechu ar lan yr afon fel anghenfil llwyd enfawr. Mae’n hawdd dychmygu pa mor arswydus fyddai’n strwythur hwn yn ymddangos i’r Cymry brodorol a sut y byddai wedi gallu newid meddwl unrhyw wrthryfelwyr posib!

Wedi ei adeiladu gan James of St George (Prif Adeiladwr Cestyll Edward I), mae’n un o’r cestyll canoloesol yn y cyflwr gorau ym Mhrydain. Mae’r tu mewn yr un mor wefreiddiol â’r tu allan!

Yn wahanol i gestyll eraill y cyfnod, mae’n siâp petryal, er mwyn cymryd mantais o ffurf y tir y mae’n sefyll arno mae’n debyg. Gyda dau ragfur anferth (pyrth cyfnerthedig), wyth tŵr a neuadd fawr, mae Castell Conwy yn cyflwyno synnwyr o gryfder a mawredd i bawb sy’n camu o mewn ei furiau.

Mae Castell a Muriau Conwy yn un o Safleoedd Treftadaeth Y Byd UNESCO ac mae’r dref hanesyddol yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr i Ogledd Cymru. Gallwch gerdded o amgylch y muriau ¾ milltir sy’n amgylchynu Conwy, sy’n rhoi golygfan unigryw i chi o’r dref a’r bobl sy’n byw ynddi. O’r murfylchau, cewch olygfeydd godidog o’r môr a’r mynyddoedd yn ogystal â chyfle i gael cipolwg diddorol i erddi a lonydd cefn trigolion Conwy.

  1. Castell Dolwyddelan

Dywedir mai Castell Dolwyddelan yw man geni arwr cenedlaethol Cymru, Llywelyn Fawr. Nid yw hyn yn gwbl wir. Tomen Castell, bryngaer gyfagos yw’r safle lle tybir i Llywelyn gael ei eni, edrychwch os gallwch ei weld o dŵr isaf Dolwyddelan .

Fel Dolbadarn yn Llanberis, adeiladodd Llywelyn y tŵr cadarn syml hwn o lechi lleol, a thra nad oes dadl mai castell yw o ran ei ddyluniad, mae’r dewis diddorol o ddeunydd adeiladu yn ei wneud yn ddigamsyniol o Gymreig.

Wedi marwolaeth Llywelyn, ychwanegodd Edward I at y castell, gan ei drwsio ac adeiladu tŵr arall. Ar ôl adeiladu Cylch Haearn Edward, gwanhau wnaeth pwysigrwydd strategol Dolwyddelan, ond parhaodd y castell. Dros y canrifoedd, ychwanegwyd llawr arall a murfylchau bylchog nodedig y castell nes iddo ddod o dan stiwardiaeth http://cadw.gov.wales/?lang=cy – y sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal a chadw henebion hanesyddol Cymreig – yn yr 20fed ganrif.

Mae’r daith gerdded i’r top yn werth yr ymdrech, lle cewch olygfeydd anhygoel o Ddyffryn Lledr. Mae’n esgus gwych i stopio yn Nolwyddelan (dolen gyswllt Sbotolau Ar yr Orsaf – Dolwyddelan) ac mae ychydig o dafarndai da yn y pentref er mwyn torri eich syched ar ôl eich ymweliad.

  1. Castell Gwydir

Er y gelwir Gwydir yn gastell, maenor gyfnerthedig ydyw mewn gwirionedd ac mae’n esiampl dda iawn o dŷ cwrt Tuduraidd. Mae Gwydir ar gyrion Llanrwst, ar ochr bela’r Bont Fawr, taith 20 munud ddymunol ar hyd tir fflat.

Mae’r cofnodion cynharaf o Gwydir yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac ar wahân i ychydig gyfnodau yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae rhywun wedi bod yn byw yno byth er hynny.

Prynodd y perchnogion cyfredol Gwydir yn yr 1990au ac maent wedi adfer y tŷ a’r gerddi rhestredig Gradd 1 hyfryd- sy’n ymestyn dros 10 acer. Mae’r gerddi’n gartref i goed cedrwydd hynafol, gan gynnwys un a blannwyd yn 1625 i nodi priodas y Brenin Siarl!

Mae gan Gwydir hanes diddorol a chyfoethog, ac mae ganddo lawer o gysylltiadau â’r teulu brenhinol yn ogystal â gwrthryfelwyr. Nid yw’n syndod o ystyried ei hanes cymhleth a’i oes hir, y dywedir fod llawer o fwganod ynddo.

  1. Bryn-y-Castell

Wedi ei leoli ychydig filltiroedd y tu allan i Flaenau Ffestiniog, ar ddiwedd lein Dyffryn Conwy, bu’r fryngaer unig hon unwaith yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu haearn, yn hytrach na llechi. Roedd wedi ei feddiannu rhwng diwedd cyfnod Oes yr Haearn tan gyrhaeddiad y Rhufeiniaid.

Cafodd ei gloddio’n helaeth rhwng 1970 – 1985 a darganfuwyd gweddillion hanesyddol diddorol iawn, gan gynnwys ffwrneisi mwyndoddi, eingionau a morthwylion cerrig, cerrig hogi a gleiniau gwydr wedi eu haddurno. Dangosodd y cloddio hefyd fod yr uned gaeedig garreg gyfnerthedig hon â strwythurau llai oddi mewn iddi, gan gynnwys cytiau crwn a wnaed o bolion pren, y cyntaf o’u bath yng Ngogledd Cymru.

O’r orsaf, mae’n daith o 30 munud da ar droed i fyny at adfeilion Bryn-y-Castell, felly dylid gwisgo esgidiau addas. Fel un o gestyll lleiaf adnabyddus y lein, mae’n werth mynd yno yn arbennig os oes gennych ddiddordeb yn hen hanes ein hardal.

 

Taith chwedlonol ar Reilffordd Dyffryn Conwy

Felly dyna ni. Taith o’r môr i’r mynydd; taith yn ôl mewn amser. Os oeddech chi’n credu mai’r 4 castell ‘mawr’ oedd yr unig rai i’w gweld yng Ngogledd Cymru – Conwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares, gobeithiwn y bydd hyn wedi newid eich meddwl.

Delweddau: Castell Dolwyddelan, diolch i Steve Povey.

Castell Gwydir, Hawlfraint Jo Tuner ac wedi ei drwyddedu i’w ailddefnyddio o dan Drwydded Creative Commons.

Castell Conwy, Hawlfraint Y Goron (2013) Croeso Cymru.

Comments are closed.