‘Taith y Pum Dyffryn’

Er bod golygfeydd godidog Gogledd Cymru yn ymddangos yn bell bell i ffwrdd o brysurdeb bywyd bob dydd, mae’n fwy na phosib trochi eich hunan yn ei brydferthwch am ddiwrnod o mor bell i ffwrdd â Llundain, tra bod Manceinion a’r Gogledd Orllewin o fewn cyrraedd hwylus i’r mynyddoedd.

y Cob, Porthmadog

Mae gwasanaeth 0710 Virgin Trains o Euston Llundain yn galw yn Crewe ychydig ar ôl 0830 ac yn eich cymryd i Gaer i ymuno â gwasanaeth Arriva ar hyd Arfordir Gogledd Cymru i Gyffordd Llandudno.    Wrth newid yma, mae’r trên yn mynd yn llai, mae’r prysurdeb yn arafu a chewch flas o’r hyn sydd i ddod wrth i’r trên ymlwybro ar hyd dyffryn Conwy ac i Eryri gychwyn dadlennu ei hysblander.

Ym Mlaenau Ffestiniog, mae trên Arriva a gwasanaeth stêm Rheilffordd Ffestiniog yn sefyll ochr wrth ochr.   Gellir prynu tocynnau ar gyfer trên Ffestiniog ac Eryri yn y swyddfa docynnau ar y platfform neu ar y trên, sydd â gwasanaeth bwffe ar ei bwrdd.    Mae’r llinell i lawr at Borthmadog yn cydio i’r llechwedd uwchben Dyffryn Ffestiniog ac yn cynnig golygfeydd ar draws y môr a chastell enwog Harlech.

Dywed llawer mai’r filltir olaf i Borthmadog yw milltir orau’r siwrnai wrth i’r trên groesi morglawdd enfawr o’r enw Y Cob sy’n ymestyn ar draws y foryd ac yn cyflwyno golygfa ragorol o fewndir Eryri.

Wrth gyrraedd Porthmadog, mae gennych awr o doriad yn eich siwrnai (gwiriwch yr amserlen yn www.festrail.co.uk oherwydd gall fod yn fyrrach ar ddyddiau tymor prysur).   Mae caffi gwych yn yr orsaf ei hunan ac mae lluniaeth ar gael ar wasanaeth ymlaen Rheilffordd Eryri.

Mae Rheilffordd Eryri yn rhywbeth gwahanol unwaith eto.    Gan adael Porthmadog am 1405 (amserlen felen) mae rhediad pum milltir ar draws dir adferwyd o’r môr 200 o flynyddoedd yn ôl, cyn i’r trên ymwthio ei ffordd drwy Fwlch Aberglaslyn – pleidleisiwyd yn lle mwyaf prydferth Prydain gan aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae dringfa hir hyd at odrefryniau gorllewinol yr Wyddfa cyn cyrraedd copa’r llinell yn Rhyd Ddu.   Mae’r ddringfa wedi ei gwobrwyo gan olygfeydd hardd o ddyffryn Gwyrfai wrth i’r trên ddisgyn i lawr tuag at Gaernarfon a’i gorsaf ger safle treftadaeth y byd mawreddog castell Caernarfon.

Mae taith gerdded fer ar draws Sgwâr y Castell, Y Maes yn rhoi’r cyfle i chi ddal bws 1645 Arriva 5C i orsaf Bangor lle gallwch ddal y gwasanaeth 1809 i Euston Llunain, lle byddwch yn cyrraedd am 2143.  Nawr dyna beth ydi diwrnod i’r brenin…

www.virgintrains.co.uk
www.arrivatrainswales.co.uk
www.festrail.co.uk

Beddgelert

Comments are closed.