Croeso...
...i daith ar reilffordd Dyffryn Conwy
O Arfordir Gogledd Cymru
i galon eryri

Croeso i Daith Trên ar Lein Dyffryn Conwy, o Arfordir Gogledd Cymru i Galon Eryri.

Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth ochr un o afonydd mwyaf Cymru, Afon Conwy, wedyn yn dilyn glannau’r Afon Lledr wyllt, wedi iddi uno ag Afon Conwy ym Metws-y-coed.

O’ch cychwyniad ger lan y môr yn Llandudno, hyd gyrraedd dyffrynnoedd dwfn Blaenau Ffestiniog, cewch amrywiaeth aruthrol o olygfeydd yn pasio o flaen eich llygaid. O gastell hanesyddol Conwy, heibio aber sy’n heigio o fywyd gwyllt, i fryniau lechweddog sy’n ildio i greigiau urddasol, wrth i’r trên groesi’r Afon Lledr wrth draphont drawiadol Pont Gethin.

Fe gewch gipolwg ar dirweddau arallfydol, fel petaent o fyd y tylwyth teg; castell mawreddog Dolwyddelan o’r 12fed ganrif, chwareli a lonydd hynafol, a choedwigoedd a chopaon uchel Eryri, cyn plymio i grombil y mynydd ac ailymddangos ychydig funudau’n ddiweddarach yn nhir diwydiannol hanesyddol Blaenau Ffestiniog, wrth union galon diwydiant chwarelyddol a chloddio llechi Cymru.

Yn sicr mae lein Dyffryn Conwy, a hithau’n 27 milltir o hyd, yn cynnig un o’r profiadau rheilffordd prydferthaf ym Mhrydain.

y diweddaraf ar y blog

(Saesneg) CAIS Social Enterprise and Adferiad open Porter’s Social Café in Llandudno
March 1, 2024   |  (0) Comments

Mae’n ddrwg gen i, mae'r cofnod hwn dim ond ar gael mewn… Read More

a girl in a red top with a leek pinned to her top
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru
February 28, 2024   |  (0) Comments

Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n… Read More

Syllu ar y Sêr yn Awyr Gogledd Cymru
February 12, 2024   |  (0) Comments

Gyda chymaint o bethau gwych i’w gweld a’u gwneud yng Ngogledd Cymru,… Read More

Sesiynau e-feicio am ddim yn ardal Cyffordd Llandudno!
February 7, 2024   |  (0) Comments

Ar y cyd â Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd… Read More